Cynnal Diwrnod Etholiad Eich Hunan

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd etholiad Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal rhwng 1 a 22 Tachwedd. Beth am hyrwyddo lleisiau pobl ifanc, a'u hawliau, drwy roi'r cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn etholiad ieuenctid cenedlaethol yng Nghymru yn ystod mis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn? 

Cofiwch y bydd angen i bobl ifanc 11-18 oed gofrestru i bleidleisio erbyn 12 Tachwedd i fod yn gymwys i bleidleisio.  

Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod etholiad Senedd Ieuenctid Cymru?

  1. Gallwch chi fod yn rhan o'r diwrnod hwn drwy addurno’ch ysgol/grŵp ieuenctid gyda’n deunyddiau marchnata gweledol. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer pecyn marchnata Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynnwys deunyddiau defnyddiol.   
  2. Beth am wahodd eich Aelod o'r Senedd lleol i'ch ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid i siarad am ei rôl, cefnogi'ch ymgeiswyr ifanc, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y bobl ifanc am wleidyddiaeth yng Nghymru? 
  3. Trefnwch weithdy neu gyflwyniad gan dîm Senedd Ieuenctid Cymru i ddechrau'r diwrnod trwy cysylltu â 0300 200 6565 neu ebostio cysylltu@senedd.cymru.  
  4. Agorwch eich ystafelloedd TG am y diwrnod i ganiatáu i bobl ifanc bleidleisio.