Bydd pleidleiswyr Senedd Ieuenctid Cymru yn gallu cofrestru rhwng 28 o Fai a 12 Tachwedd.
Beth am gymryd rhan drwy droi rhan o’ch ysgol, coleg neu glwb ieuenctid yn lle i gofrestru pleidleiswyr?
Anogwch gynifer o bobl ifanc â phosibl i godi eu llais a chofrestru i bleidleisio yn etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru.
Bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2021 a byddant yn gyfle i bobl ifanc fod yn rhan o broses ddemocrataidd yng Nghymru, a phleidleisio dros bwy yr hoffent i’w cynrychioli.
Syniadau da ar gyfer creu hyb i gofrestru pleidleiswyr:
- Creu rota yr hyb fel y gall rhai dosbarthiadau gofrestru ar yr un pryd yn eich ystafelloedd TG
- Gofyn i bob dosbarth cofrestru neilltuo 5 munud i bobl ifanc gael cofrestru i bleidleisio gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol
- Agor eich ystafelloedd TG bob amser cinio drwy gydol yr wythnos fel lle i bobl ifanc alw heibio er mwyn cofrestru i bleidleisio.
Nid oes angen i rai oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru 2018 wneud hynny eto. Byddent yn derbyn e-bost ar 3 Mehefin 2021 yn cadarnhau eu bod yn parhau i fod wedi cofrestru i bleidleisio. Byddent yn derbyn cod pleidleisio a chyfarwyddiadau trwy e-bost ar 1 Tachwedd 2021.
Dim ond ychydig funudau y bydd yn eu cymryd i gofrestru i bleidleisio, a byd angen y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Cod post (cartref neu ysgol)
- Cyfeiriad e-bost
- Dyddiad Geni