Llongyfarchiadau! Rwyt ti’n ymgeisydd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.

NAWR BETH?

Mae'n amser iti feddwl sut rwyt ti am berswadio pobl ifanc eraill i bleidleisio drosot ti.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Paid â phoeni, dyma rai awgrymiadau ar sut y gelli di gynnal ymgyrch wych!

DIOGELWCH YN GYNTAF

Wrth ymgyrchu mae'n bwysig gwneud yn siŵr dy fod yn dilyn camau syml i gadw dy hun yn ddiogel.

  • Paid â rhoi dy rif personol, dy gyfeiriad, na dy e-bost ar dy ddogfennau cyhoeddus. Os hoffet i bobl gysylltu â thi, beth am ystyried cyfrif e-bost proffesiynol?
  • Bydd yn ofalus o'r iaith rwyt ti’n ei defnyddio a bydd yn ystyriol o eraill.
  • Defnyddia ddeunyddiau a thempledi gan Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Paid â mynd i ganfasio ar dy ben dy hun.

1. MEDDWL

  • Pa faterion sy'n bwysig i ti? Dyma neges allweddol dy ymgyrch!
  • Pa faterion sy'n bwysig i'r bobl ifanc yn dy ardal? Beth fydd yn gwneud i bobl ifanc fod eisiau pleidleisio drosot ti?
  • Pa fath o Aelod Senedd Ieuenctid Cymru fyddi di? Meddylia am y sgiliau y byddet ti'n dod â nhw i'r rôl a dathla nhw yn dy ymgyrch!
  • Gwna restr o ysgolion, colegau, a sefydliadau ieuenctid yn dy etholaeth fel y gelli di, neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, roi gwybod iddyn nhw am etholiad Senedd Ieuenctid Cymru a sut y gallan nhw gymryd rhan.

2. YMGYSYLLTU

  • Cysyllta â dy gynghorwyr lleol a gofyn iddyn nhw dy helpu i ledaenu'r neges am yr etholiad.
  • Gofynna i dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid gymryd rhan. Gofynna i oedolyn gefnogi dy ymgyrch a gofyn iddyn nhw dy helpu i drefnu Diwrnod Cofrestru Pleidleiswyr neu Ddiwrnod Etholiad, neu beth am drefnu sesiwn am ddim gyda dy Swyddog Addysg Senedd lleol?
  • Beth am greu cyflwyniad neu boster gan ddefnyddio ein templedi a gofyn am gael cynnal gwasanaeth neu sesiwn lle gelli di ddweud wrth dy gyfoedion pam y dylen nhw bleidleisio drosot ti?
  • Gofyn i dy deulu a dy ffrindiau ymuno - gofynna iddyn nhw ledaenu'r gair!
  • Paid ag anghofio: mae angen i dy bleidleiswyr gofrestru erbyn 20 Tachwedd i bleidleisio drosot ti.

3. RHANNU

  • Gwna’n siŵr bod dy bleidleiswyr yn dy adnabod. Os oes gen ti ganiatâd ac rwyt ti’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, beth am:
  • Rannu’r linc i dy broffil ymgeisydd (ar gael o 21 Hydref).
  • Defnyddio ein templed i greu poster i’w rannu.
  • Rhannu gwybodaeth am sut y gall pobl ifanc yn dy ardal gofrestru a phleidleisio drosot ti.
  • Bydd yn greadigol! Beth am greu slogan bachog, flogio dy brofiad, sôn wrth bobl pa faterion rwyt ti’n sefyll drostyn nhw a pham y byddi di’n gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Beth am ysgrifennu blog neu erthygl a'i hanfon i'r papur newydd lleol?

COFIA

Fel ymgeisydd Senedd Ieuenctid Cymru, dy gyfrifoldeb di yw:

  • Gofyn i oedolyn y gelli di ymddiried ynddo dy helpu gyda'r ymgyrch.
  • Cynnal ymgyrch gadarnhaol – beth fyddai'n dy wneud yn gynrychiolydd da?
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn briodol.
  • Cadw at ddidueddrwydd gwleidyddol Senedd Ieuenctid Cymru drwy beidio â chynrychioli unrhyw bleidiau gwleidyddol.
  • Trin pawb ag urddas a pharch.
  • Cadw at y gyfraith bob amser a pheidio â gweithredu mewn ffordd a allai ddwyn anfri ar y Senedd.