10fed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad

Cyhoeddwyd 09/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munud

Ym mis Tachwedd wnaeth ein Haelodau Rhian Shillabeer a Talulah Thomas cynrychioli Cymru yn y 10fed Senedd Ieuenctid Gymanwlad yn Delhi, India. Dyma hanes eu brofiad.

flag.jpg

Cyflwyniad - Rhian Shillabeer

Mae Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn ddigwyddiad sy'n dod â phobl ifanc o dros 53 o wledydd ynghyd. Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i gynnwys barn ac arweinyddiaeth pobl ifanc yn y cylch gwleidyddol rhyngwladol. Mae’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn senedd ffug a disgwylir iddyn nhw ddiwygio biliau a deddfwriaeth. Ein rôl ni oedd bod yn gynrychiolwyr Cymru a chynnal safon aur o gynrychiolaeth ac addysgu'r rhai o'n cwmpas am y gwaith y mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn ei wneud. Ar yr un pryd, wedi i'r digwyddiad ddechrau, ni fu sôn pellach am y cysylltiad a buom yn canolbwyntio ar ein plaid ddynodedig yn unig a'n rôl o fewn honno. Rhannwyd y digwyddiad yn dri diwrnod, gyda phob un ag agenda strwythuredig a nodau penodol. Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau yn llawer ehangach na chynulliad gwleidyddol yn unig. Roedden ni’n gallu bod yn rhan o nifer o ddiwylliannau amrywiol, rhai yr oeddem yn anghyfarwydd â nhw, ac
yn gallu gwneud ffrindiau rhyngwladol am oes. Er bod y cynulliad blynyddol hwn yn gyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn bennaf, mae hefyd yn llawer mwy na hynny.

Yn ystod y tri diwrnod yn yr India buom yn rhan o senedd ffug fanwl a realistig iawn a oedd yn cynnwys gwneud diwygiadau i Filiau a chyflwyno penderfyniadau. Cawsom ein trochi hefyd yn niwylliant India gyda dylanwadau diwylliannol cyson fel perfformiadau a bwyd lleol ochr yn ochr â gwleidyddiaeth. At ei gilydd, rhoddodd y rhaglen hon gipolwg inni, nid yn unig ar sut mae endidau gwleidyddol go iawn yn gweithio, ond caniataodd inni hefyd gael dealltwriaeth gliriach o wahanol ddiwylliannau a ffyrdd o fyw. Gallaf siarad yn hyderus dros Talulah a minnau pan ddywedaf fod y daith hon nid yn unig wedi bod yn addysgiadol o ran ein gwybodaeth wleidyddol ond hefyd o ran ein dealltwriaeth o'r byd. Mae'r daith hon wedi creu ffrindiau am oes ac atgofion am oes y byddwn yn eu trysori at y dyfodol, boed yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth ai peidio.

Diwrnod 1 – Talulah Thomas

Roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd! Dechreuodd ein taith fel Aelodau Anrhydeddus o Senedd Ieuenctid Tir y Gymanwlad gyda chyflwyniad Mentoriaid a Chyfranogwyr. Rhoddodd hyn gyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd yn ogystal â chael gwybodaeth gan y Mentoriaid a'r Siaradwyr am Gynulliad Deddfwriaethol Delhi. O'r sesiynau rhagarweiniol a chyfeiriol hyn, cawsom gipolwg pellach ar rôl Deddfau, Deddfwrfeydd a swyddogaethau allweddol dyfeisiau Deddfwriaethol, gweithdrefnau a phleidiau gwleidyddol.

Roedd sesiwn y prynhawn yn cynnwys agoriad ffurfiol 10fed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yng Nghynulliad Deddfwriaethol Delhi. Roedd y digwyddiad anferthol hwn yn cynnwys Anerchiad Croeso a draddodwyd gan Shri Ram Niwas Goel, Llefarydd Anrhydeddus, Cynulliad Deddfwriaethol Delhi. Wedi hynny, cafwyd anerchiad gan Shri Arvind Kejriwal, Prif Weinidog Anrhydeddus, Delhi a Ms Emilia Monjowa Lifaka, AS, Cadeirydd Anrhydeddus, Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad fel Gwesteion Anrhydeddus.

Traddododd Shri Om Birla, Llefarydd Anrhydeddus, Lok Sabha, y Prif Westai ei anerchiad agoriadol yn Haul y Cynulliad, gan agor y Senedd Ieuenctid yn ffurfiol. Dechreuodd taith y prosesau deddfwriaethol a seneddol wrth i'r holl Aelodau newydd gael eu croesawu ac i Fasiha Hasaan, Llefarydd Anrhydeddus Tir y Gymanwlad, annerch y Tŷ. Yn dilyn hyn, cymerodd yr Aelodau lw ag un llais gan ddatgan y byddwn ni fel Aelodau yn cyflawni'r cyfrifoldeb i amddiffyn budd y genedl (Tir y Gymanwlad) a'n pobl. Wrth wrando ar Anerchiad Llywydd Tir y Gymanwlad, dywedodd ei fod yn credu y bydd pob aelod yn cyflawni ei ddyletswydd gyda'r cywirdeb, y diwydrwydd a’r diffuantrwydd mwyaf. Fe wnaeth Anerchiad y Llywydd hefyd ein haddysgu am nodweddion, problemau a heriau Tir y Gymanwlad. Sicrhaodd hyn fod yr holl Aelodau’n gwbl ymwybodol o’r math o Lywodraeth y byddai’r Wrthblaid yn ei herio yn y pen draw. Rhoddodd y cyflwyniadau a’r anerchiadau hyn a gyflwynwyd i'r Tŷ gan westeion ffurfiol a Siaradwyr Anrhydeddus gipolwg inni ar drafodion ffurfiol seneddol. Roedd hwn yn brofiad nad oeddwn i na Rhian erioed wedi'i gael o'r blaen. Rhoddodd y trafodion hyn gyfle inni drochi ein hunain yn llwyr yn y digwyddiadau parhaus yn y system seneddol. Cynigiodd y Gweinidog Anrhydeddus drafodaeth ar gynnig o ddiolch am Anerchiad y Llywydd ''Bod y Tŷ hwn yn mynegi ei ddiolch i'r Llywydd Anrhydeddus am ei anerchiad a draddodwyd i'r Senedd ar 25 Tachwedd 2019''. Roedd y gweithgaredd seneddol penodol hwn hefyd yn rhywbeth nad oeddem erioed wedi'i brofi o'r blaen, fel llawer o'r systemau ffurfiol y daethom ar eu traws fel Aelodau o'r Senedd Ieuenctid.

Aeth y diwrnod yn ei flaen wrth inni rannu i’n rolau Seneddol fel Aelodau, Talulah yn arfer rôl Gweinidog Lles Cymdeithasol gweddol asgell dde yn y blaid sy’n rheoli, a Rhian fel Aelod ewn a mwy rhyddfrydol o’r Wrthblaid. Gallem ddweud bod pethau’n mynd i fod yn ddiddorol iawn yn wir! Gan fod y pleidiau a'r rolau ynddynt wedi'u sefydlu, roedd yn amser dechrau ar ein cwestiynau ac atebion paratoadol, gwelliannau i Fil Cronfa’r Hinsawdd a chyfeiriadau arbennig yn barod ar gyfer digwyddiadau'r dyddiau canlynol.

Chamber shot.jpg

Diwrnod 2 – Talulah Thomas

Wrth edrych yn ôl, ar Ddiwrnod 2 trafodion Senedd Ieuenctid y Gymanwlad y cynhaliwyd y digwyddiadau a’r dadleuon mwyaf addysgiadol. Roeddent yn rhan hanfodol o’n proses ddysgu fel Aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Dechreuwyd trwy annerch y Tŷ drwy’r broses o 'Gyfeiriadau Arbennig', sy’n tynnu sylw at broblemau a heriau sy'n wynebu ein Senedd. Er bod llawer o'r problemau hyn yn ddychmygol, heb amheuaeth roeddent yn cyd-daro â llawer o'r problemau sy’n wynebu llawer o'r gwledydd a oedd â chynrychiolaeth yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad. Caniataodd hyn inni gael cipolwg ar broblemau byd-eang nad oeddem efallai yn ystyried eu bod yn bodoli neu'n parhau, gan ein bod yn dod o wlad ddatblygedig.  Mae'r profiad o allu trafod ac ehangu ein dealltwriaeth o'r ystod eang o broblemau sy'n wynebu gwledydd a chenhedloedd sydd heb ddatblygu'n ddigonol wedi agor ein llygaid i wleidyddiaeth fyd-eang, mewn ffordd y gallai rhywun ddweud sy’n eithaf unigryw efallai.

Yr her nesaf a oedd yn ein hwynebu ni, Weinidogion Llywodraethol, oedd ateb y cwestiynau a ddrafftiwyd gan yr Wrthblaid. Fel Gweinidog Lles Cymdeithasol, cefais fy nghwestiynu a fy holi lawer gan Aelodau Anrhydeddus yr Wrthblaid. Dim ond y bore hwnnw yr oeddwn wedi gweld y cwestiynau hyn mewn gwirionedd, felly roedd yn her enfawr ceisio meddwl yn gyflym heb fawr o waith paratoi. Roedd y rhan hwn o’r profiad yn wefreiddiol ac yn gyffrous a rhoddodd gipolwg inni ar faterion sy’n codi’n aml yn y Senedd. Rhoddodd hefyd gyfle i Aelodau’r Wrthblaid graffu a herio’r blaid sy’n Rheoli, a’n gorfodi ni, Weinidogion, i fod yn atebol am weithredoedd a phenderfyniadau’r Llywodraeth hyd yn oed os nad oeddem o reidrwydd yn cytuno â nhw fel unigolion - fe wnaeth inni wirioneddol chwysu!

Cwestiynau a godwyd gan Aelod Anrhydeddus o'r Wrthblaid, Rhian Shillabeer

Cwestiynau a godwyd gan Aelod Anrhydeddus o'r Wrthblaid, Rhian Shillabeer

Cwestiynau a godwyd gan Aelod Anrhydeddus o'r Wrthblaid, Rhian Shillabeer

Cwestiynau a godwyd gan Aelod Anrhydeddus o'r Wrthblaid, Rhian Shillabeer

Cwestiynau a godwyd ar gyfer Gweinidog Lles Cymdeithasol y Blaid Reoli, Talulah Thomas

Cwestiynau a godwyd ar gyfer Gweinidog Lles Cymdeithasol y Blaid Reoli, Talulah Thomas

question talulah 2.png
question talulah 3.png

Roedd sesiwn y prynhawn yn cynnwys ehangu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth drwy ddadlau, trafod a phleidleisio ar ein busnes deddfwriaethol. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar gynnig Ms Adriana Jane Lopez, Gweinidog Anrhydeddus yr Amgylchedd am ganiatâd i gyflwyno Bil i sefydlu Cronfa Hinsawdd i Fenywod. Bil oedd hwn a gynigwyd i gefnogi menywod i liniaru effaith andwyol newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid yn yr hinsawdd. O fewn hyn, y syniad oedd eu grymuso ar gyfer gwytnwch ac addasu yn erbyn effeithiau anffafriol, cas newid yn yr hinsawdd ar amaethyddiaeth. Fel y gallwch ddweud, mae'r Bil hwn yn addas iawn ac roedd ei berthnasedd cyfoes yn amlwg i'w weld. Rwy'n credu bod hwn yn syniad gwych gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad oherwydd, er ei fod yn gysyniad dychmygus, mae'r rhain yn broblemau go iawn sy'n wynebu llawer o garfanau mewn cymdeithas, yn enwedig grwpiau a llwythau brodorol sy'n wynebu ôl-effeithiau newid yn yr hinsawdd yn yr oes fodern hon. Mewn gwirionedd, achosodd y Bil imi hyrwyddo fy astudiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar grwpiau agored i niwed, sy'n rhywbeth y credaf y dylid addysgu pobl ifanc amdano yn ystod yr oes fregus hon o anhrefn amgylcheddol a llygredd mewn gwleidyddiaeth fodern.

Wrth hyrwyddo'r ddadl ar y Gronfa Hinsawdd I Fenywod, cododd yr Wrthblaid a’r Blaid Annibynnol welliannau a phenderfyniadau ar y Bil. O'r rhain, derbyniwyd llawer yn dilyn trafodaethau dwys ar bob gwelliant. Fodd bynnag, cafodd llawer eu herio neu eu gwrthod gan y blaid sy’n Rheoli o ganlyniad i arbenigedd ein Prif Chwip yn y cyfreithlondebau y tu ôl i’r gwelliannau a godwyd. Roedd hwn yn brofiad rhagorol o ran cael dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o gyfreithlondebau o fewn y system Seneddol a phwyntiau o drefn yn ystod dadleuon.

Ac felly, mae'r canlyniadau i mewn!

Pleidleisiodd pob Aelod Anrhydeddus unigol o'r Tŷ 'O blaid' y Bil ar Gronfa Hinsawdd i Fenywod. Roedd y profiad o ddadlau, herio a sicrhau tir cyffredin a'r nod yn y pen draw yn hanfodol i'n profiad fel Aelodau o’r Senedd Ieuenctid wrth inni ddechrau deall y system a'r codau ymddygiad yn llawn yn ystod prosesau Deddfwriaethol. Yn dilyn dwyster ein profiad yn y Cynulliad, cawsom wahoddiad cynnes i Raglen Ginio a gynhaliwyd gan Lefarydd Anrhydeddus, Cynulliad Deddfwriaethol Delhi ar Lawntiau'r Cynulliad. Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol wych wrth inni ymchwilio i ddiwylliant y wlad a oedd yn ein croesawu, gyda digwyddiadau cerddorol rhagorol a oedd yn cynnwys llawer o amrywiadau ar ddawns draddodiadol. Un gair: WOW. Am noson!

Dancing.jpg
Dancing 4.jpg

Diwrnod 3 – Rhian Shillabeer

Hwn oedd ein diwrnod llawn olaf yn India ac roedd ein hemosiynau eisoes yn rhemp. Wrth gwrs, dechreuodd y diwrnod gyda brecwast yn y gwesty a thaith fws gyflym ac eithaf cyfarwydd erbyn hyn ar draws Delhi i'r cynulliad. Ar ôl cyrraedd, cawsom ein rhannu'n gyflym i’n priod bartïon er mwyn cael cyfarfod tîm cyflym a mynd drwy’r agenda am y diwrnod. Yr agenda oedd cau'r senedd a chrynhoi ein holl waith yn ystod y tri diwrnod diwethaf, dathlu'r gwaith hwnnw a chael un rownd olaf o gwestiynau ac atebion. Ar ôl y cyfarfod tîm cyflym, fe wnaethom eistedd am y tro olaf. Aethpwyd drwy’r trafodion yn llawer cyflymach na’r dyddiau blaenorol oherwydd erbyn hyn roedd yr holl aelodau'n gyfarwydd â phroses y siambr. Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, paratôdd yr wrthblaid ar gyfer yr ymosodiad yr oeddent wedi'i wynebu yn ystod y dyddiau blaenorol. Ond roedd yr awyrgylch ar y llawr yn wahanol iawn heddiw. Cafodd y rhan fwyaf o gwestiynau ymatebion ysgafn a llawer o chwerthin yn enwedig i’r Aelod Anrhydeddus Lorenzo Carey, Gweinidog Cyllid y brif blaid.

Wedyn, cyflwynodd y Llefarydd bleidlais nad oedd y llawr yn ei disgwyl, sef pleidlais ynghylch a ddylai Senedd Ieuenctid y Gymanwlad barhau am flynyddoedd i ddod. Ni chafwyd trafodaeth flaenorol ar y bil hwn, gan mai'r bwriad oedd gadael pob cysylltiad pleidiol ar ôl a chanolbwyntio ar warchod cyfranogiad ieuenctid mewn gwleidyddiaeth. Roedd yr awyrgylch ar y llawr wedi newid yn gyflym o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol mewn amrantiad. Cyflwynodd y siaradwr y bil, darllenodd y cynnwys yn gryno ac yna fe’i rhoddodd i'r llawr. Wedyn, cyflwynodd y prif weinidog araith a oedd yn ysbrydoledig ac yn berthnasol iawn. Roedd yr araith yn cynnwys llawer o resymau pam mae parhau â'r digwyddiadau hyn o'r pwys mwyaf i annog cyfranogiad ieuenctid. Daeth ein heisteddiad olaf yn y Senedd i ben gydag areithiau cloi gan arweinwyr pob plaid. Roedd yr holl areithiau hyn yn emosiynol, yn enwedig araith Joseph Barker, y gweinidog anrhydeddus a roddodd bwyslais ar y cyfeillgarwch yr oeddem i gyd wedi'i ffurfio a'r undod a oedd yn cael ei deimlo gan y grŵp cyfan. I orffen gwleidyddiaeth y daith, buom yn ddigon ffodus i gael sgwrs fer gan Miss Fasiha De Affrica. Roedd y sgwrs yn sôn am ei phrofiadau fel Aelod Seneddol benywaidd ifanc a sut y llwyddodd i gyrraedd y man lle y mae heddiw.

Wrth symud o'r cynulliad cawsom gyfle i ymweld ag un o rannau hynaf Delhi, y Qutub Minar. Cawsom ein harwain gan arweinydd gwybodus iawn a esboniodd hanes maith yr ardal a'r adeiladau oddi mewn iddi. Yna aethom i ginio hudolus yng ngardd y pum synnwyr a oedd yn un o'r profiadau mwyaf unigryw i mi ei gael. Roedd y bwyd yn anhygoel ac yn ogystal â hynny roedd mwy o ddawnsio gyda'r grŵp a derbyniad anhygoel gan y gwesteion. Fodd bynnag, ni allem aros yn hir gan fod angen inni adael yn gyflym ar gyfer hedfan adref.

Wedyn, daeth rhan waethaf y daith, y ffarwelio. Fi a Talulah oedd un o'r rhai cyntaf i adael felly cawsom gyfle i ffarwelio, a oedd yn fendith ac yn felltith. Fe wnaethom wneud ein gorau glas i gyfnewid manylion fel y gallem i gyd gadw mewn cysylltiad.

Casgliadau – Talulah Thomas

Y sgil bwysicaf a gefais o'r profiad oedd y wybodaeth ddyfnach o sut mae trafodion deddfwriaethol a seneddol yn gweithio. Nid oedd hyn yn rhywbeth a ddysgais yn yr ysgol erioed. Teimlaf y gallaf gymryd mwy o ran mewn gwleidyddiaeth gan fy mod yn deall yn gliriach sut mae pethau'n gweithio. Mae hyn wedi tynnu sylw at y rhesymeg pam nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y byd gwleidyddol. Credaf ei fod yn ymwneud â’r diffyg addysg am drafodion a'r cymhlethdod sy'n aml yn ymwneud â digwyddiadau gwleidyddol yn y Senedd. Dysgais hefyd beth yw gwir ystyr bod yn 'Seneddwr'. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid ichi weiddi a ffrydio ffeithiau, ystadegau a chreu helynt am rai materion i brofi'ch gwybodaeth. I fod yn Seneddwr, credaf y dylech fod â'r gallu i rymuso, trwy dosturi a mabwysiadu dealltwriaeth glir o bobl. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei rannu gyda fy nghyd-aelodau o’r Senedd Ieuenctid ochr yn ochr â phobl ifanc yma yng Nghymru.

Roedd yr araith gan Fasiha Hassan, Aelod Seneddol Ewropeaidd ieuengaf De Affrica, yn brofiad a gadarnhaodd pam fy mod am wneud newidiadau a dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan y mawrion ym myd gwleidyddiaeth. Gallaf ddweud gyda’r gonestrwydd mwyaf na chefais erioed fy ysbrydoli gymaint gan eiriau rhywun arall ac adlewyrchiad o’u profiadau. Buom yn trafod menywod mewn gwleidyddiaeth a phŵer cyfranogiad a gweithredaeth ieuenctid mewn ffordd real a dilys iawn - gan gael gwared ar unrhyw ddwli a glywaf yn aml gan bobl mewn swyddi uchel sy’n dweud wrth bobl ifanc am gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Roedd y daith yn sicr yn rhagori ar fy nisgwyliadau. Roedd yn heriol wrth imi ymgymryd â gweithgareddau nad oeddwn erioed wedi'u gwneud o'r blaen, meddwl am heriau a phroblemau nad oeddwn erioed wedi'u trafod o'r blaen. Fodd bynnag, mae hyder wedi dod yn sgil yr her honno, nid yn unig ynof fy hun fel merch ifanc sy'n gobeithio mynd i fyd gwleidyddiaeth ac arbenigo mewn hawliau dynol, ond hyder yn ein cenhedlaeth o bobl ifanc. Hyd yn oed os nad oes gennym unrhyw bŵer deddfwriaethol hyd yma, rydym yn sicr yn genhedlaeth o weithredwyr sy'n ymgyrchu dros newid ac sy’n gobeithio dylanwadu ar benderfyniadau. Mae 10fed Cynhadledd Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn brawf clir o'm datganiad.

Rhian group shot.jpg
Talulah group shot.jpg