Yn gynharach eleni, fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod am gael senedd ieuenctid i'ch cynrychioli chi, a heddiw mae gennym newyddion cyffrous!
Gofynnwyd i chi beth fyddech chi am enwi eich senedd ieuenctid – heddiw gallwn gyhoeddi mai'r enw a ddewiswyd gennych yw…
Senedd Ieuenctid Cymru
Gallwn hefyd ddweud wrthych y bydd eich Senedd Ieuenctid Cymru:
- Yn cynnal ei etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2018
- Yn cynnwys 60 Aelod a fydd yn eich cynrychioli chi ar y materion sy'n bwysig i chi.
- Bydd Aelodau rhwng 11 a 18 oed.
Rydym yn gwneud yn siŵr y bydd eich Senedd Ieuenctid Cymru yn llais diduedd, gan ei gwneud yn gwbl annibynnol ar bob plaid wleidyddol.
FELLY BETH NESAF…
Wel…
- Rydym yn gweithio ar bennu dyddiad er mwyn cofrestru i bleidleisio dros Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac
- Rydym wrthi'n edrych ar y manylion ynghylch pryd a sut y gallwch chi gynnig eich hun i fod yn Aelod, os yw hynny'n rhywbeth y byddech yn hoffi ei wneud.
Byddwn yn cysylltu â chi yn fuan gyda rhagor o wybodaeth.
- Tîm Senedd Ieuenctid Cymru