Cipolwg Ar: Llamau

Cyhoeddwyd 20/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2021   |   Amser darllen munud

Yn Llamau, rydym yn benderfynol o greu Cymru lle nad oes rhaid i unrhyw berson ifanc neu fenyw fod yn ddigartref fyth. Mae'n uchelgais fawr, ac i rai pobl gallai ymddangos yn amhosibl, ond rydyn ni'n gwybod nad yw digartrefedd yn rhywbeth sy’n anochel ac os ydyn ni oll yn gweithio gyda'n gilydd, does dim rhaid iddo fodoli.

Rydyn ni'n meddwl am y darlun ehangach oherwydd nid yw dim ond rhoi to uwchben rhywun yn ddigon. Dyna pam mae’r cymorth yr ydyn ni’n ei gynnig yn canolbwyntio ar dri maes allweddol er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd.

Ymyrraeth Gynnar ac Atal: mae hyn yn golygu atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd a pheidio ag aros nes bod pobl yn cyrraedd pwynt argyfwng cyn iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn golygu mynd at wraidd y mater ac yn y tymor hir mae'n ffordd lawer mwy cost-effeithiol o fynd i'r afael â digartrefedd.

Llety Diogel: mae hyn yn golygu darparu llety a lloches cartrefol a diogel gyda chymorth, ac nid hosteli sefydliadol. Mae'r rhain yn lleoedd y gall pobl wirioneddol eu galw'n gartref ac sy'n rhoi platfform diogel i bobl ailadeiladu eu bywydau.

Cymorth i Symud Ymlaen: mae hyn yn golygu cydnabod y gall pawb, gyda'r cymorth cywir, symud ymlaen i fyw'n annibynnol yn eu cymuned. Rydym yn canolbwyntio ar helpu pobl â materion iechyd meddwl a materion corfforol, sydd wedi datblygu o'r trawma y maent wedi'i brofi, ac rydym yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael addysg a hyfforddiant fel eu bod yn gallu cael swydd gynaliadwy sy'n caniatáu iddynt symud ymlaen o ddigartrefedd unwaith ac am byth.

Ochr yn ochr â'n cymorth, rydym yn benderfynol o greu mudiad sy'n rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Ni fyddwn yn goddef y status quo – mae'n rhaid i ni wneud yn well na hynny. Er y byddwn yn parhau i helpu pobl sy'n cael eu gwthio i ddigartrefedd, byddwn yn canolbwyntio ar greu a chanfod atebion sy'n atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio'n galed i ddeall y materion sydd wedi gorfodi pobl ifanc a menywod i fod yn ddigartref, ac ein bod yn ymgyrchu dros newidiadau i'r systemau a'r strwythurau sy'n achosi hynny.