Cipolwg Ar: Tŷ Hafan

Cyhoeddwyd 18/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/01/2022   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, rydyn ni’n falch o weithio gyda sefydliadau gwych sy'n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ledled Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 o sefydliadau partner, a byddwn ni’n eu cynnwys yma ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Yr wythnos hon, rydym yn tynnu sylw at ein sefydliad partner Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Hosbis Plant Tŷ Hafan

Wedi'i leoli ger y môr yn Sili ym Mro Morgannwg, mae Tŷ Hafan yn hosbis plant flaenllaw yng Nghymru, sy'n cefnogi’r de, y gorllewin a’r canolbarth.

Sefydlwyd Tŷ Hafan ym 1995 gan Suzanne Goodall ar ôl darganfod nad oedd darpariaeth hosbis plant yng Nghymru, ac agorodd yr hosbis ei drysau ym 1999.  Ar hyn o bryd mae Tŷ Hafan yn gofalu am 261 o blant yng Nghymru sydd â chyflyrau cynyddol gydol oes ac ers agor mae wedi cefnogi tua 1,000 o deuluoedd. Darperir cymorth profedigaeth parhaus hefyd i dros 100 o deuluoedd bob blwyddyn a thua 50 o bobl ifanc a'u teuluoedd sy'n cael eu cefnogi wrth iddynt bontio i wasanaethau oedolion. Nod yr hosbis yw creu Cymru lle mae pob plentyn a all farw yn ystod plentyndod yn byw bywydau boddhaus.

Mae Tŷ Hafan yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd plentyn a'i deulu, gan fynd i'r afael â'u hanghenion corfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol. Mae’n darparu gofal lliniarol pediatrig cyfannol i blant â chyflyrau cynyddol gydol oes a'u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gofal preswyl yn yr  hosbis, cymorth clinigol, gofal diwedd oes ac ystod o wasanaethau cymorth seicogymdeithasol a therapi yn y gymuned ac yn yr hosbis. Pan fydd plentyn yn agos at ddiwedd ei oes, daw Tŷ Hafan yn hafan ddiogel i'r teulu, wrth eu hochr yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn ac am gyhyd ag sydd ei angen wedyn.

Yn ogystal â darparu cymorth a gofal clinigol i gannoedd o bobl ifanc a'u teuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru, mae'r hosbis wedi creu cymuned y tu hwnt i ofal meddygol yn unig. Yn 2008, Tŷ Hafan oedd yr hosbis gyntaf yn y DU i gael ei Grŵp Sgowtiaid ei hun. Nid yw Grŵp y Sgowtiaid yn codi tâl tanysgrifio ac mae'n dibynnu ar raglen codi arian barhaus.

Mae'r grŵp yn agored i bob plentyn sy'n cael gofal yno, eu rhieni a'u brodyr a'u chwiorydd. Mae'r aelodau'n amrywio o bump i 19 oed, ac mae'r gweithgareddau a gynhaliwyd hyd yma wedi cynnwys tostio malws melys a gwneud catapwltau, gyda'r plant yn derbyn tystysgrifau ar ôl cymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Mae Sgowtiaid Tŷ Hafan hefyd wedi cynnal eu gwersylloedd sgowtiaid eu hunain ac yn gynharach eleni wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Mae Tŷ Hafan yn falch o fod yn elusen sy'n gweithio gyda rhai o bobl ifanc mwyaf agored i niwed Cymru ac roedd yn falch iawn o gael ei ddewis yn Sefydliad Partner i ni yn Senedd Ieuenctid Cymru. Isod, rydym yn cyflwyno ei Aelod Senedd Ieuenctid cyntaf erioed, a chynrychiolydd cyntaf erioed Cymru sydd â chyflwr cynyddol gydol oes, a fydd yn gweithio'n agos gyda phlant eraill o Dŷ Hafan, yn ogystal â hosbis plant arall Cymru, sef Tŷ Gobaith, yn y gogledd.

Seth Burke, Aelod o’r Senedd Ieuenctid

"Fy enw i yw Seth Burke, rwy'n 13 oed, yn mynychu Ysgol St. Cyres ym Mhenarth a fi yw eich Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Rhanbarth Canol De Cymru, yn byw yn Ninas Powys, Bro Morgannwg. Rwy'n falch o fod mewn partneriaeth â hosbis plant Tŷ Hafan, sydd wedi bod yn fy helpu i a'm teulu am y pum mlynedd diwethaf.

"Cefais fy ngeni â chyflwr o'r enw Dystroffi Cyhyrol Duchenne (DMD). Mae hyn yn golygu nad yw fy nghyhyrau'n tyfu mor gryf â'r plant eraill hynny sedd heb DMD. Roeddwn i wastad wedi bod yn weddol egnïol, ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf fe dorrais fy ffêr. Roeddwn i yn ein hen dŷ, mewn cast, a nawr mae cymaint o amser ers i mi sefyll ar fy nhraed fel na allaf wneud hynny bellach.

"Rwyf mor falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – a hyd yn oed yn fwy balch o fod yr Aelod Cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru sydd mewn cadair olwyn ac sydd â Dystroffi Cyhyrol Duchenne (DMD). Rwyf am fod yn llais cryf i blant eraill fel fi, i blant eraill sy'n defnyddio cadeiriau olwyn ac i hosbisau plant, a'r teuluoedd a'r ffrindiau hynny sy'n mynd gam ymhellach i wneud yn siŵr nad oes dim yn amhosibl. Rhywbeth rwy'n arbennig o awyddus i fynd i'r afael ag ef yw mynediad i wahanol fannau i bobl fel fi. Rwyf am greu Cymru lle gall pawb gael hwyl, ymweld â pharciau lleol a mannau eraill, p'un a ydynt mewn cadair olwyn ai peidio."

Wrth siarad am ei uchelgeisiau gyda llysgennad Tŷ Hafan, Michael Sheen, dywedodd Seth: "Mae gennyf bum maes blaenoriaeth yr hoffwn fynd i'r afael â nhw yn fy rôl:

  1. Amddiffyn ein hamgylchedd a'r byd naturiol
  2. Gwell hygyrchedd i fannau cyhoeddus i bobl ag anableddau
  3. Mynd i'r afael â bwlio ar-lein
  4. Trafod problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc
  5. Cynyddu mynediad i glybiau am ddim sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.

"Ar ôl fy nhair blynedd yn y swydd, rwy'n gobeithio y byddaf wedi helpu i greu Cymru sy'n fwy tosturiol i blant fel fi, ac i sicrhau bod hosbisau plant Cymru yn cael yr holl gymorth y gallant fel y gallant helpu hyd yn oed mwy o bobl ifanc."

Dywedodd Prif Weithredwr Tŷ Hafan, Maria Timon Samra: "Mae Tŷ Hafan mor falch o fod yn cefnogi Seth ar ei daith yn y Senedd Ieuenctid. Fel yr Aelod cyntaf erioed o Senedd Ieuenctid Cymru sydd â chyflwr cynyddol gydol oes – a'r defnyddiwr cadair olwyn cyntaf erioed i gael ei gynrychioli yn y Senedd – rydym yn hyderus y bydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn y gall ef, a'i gyfoedion yn y garfan eleni, ei gyflawni gyda'i gilydd."