Cipolwg ar: Urdd Gobaith Cymru

Cyhoeddwyd 19/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/11/2021   |   Amser darllen munud

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, rydyn ni’n falch o gydweithio â sefydliadau arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ledled Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 sefydliad partner, a dros y misoedd nesaf byddwn yn cymryd cipolwg ar bob un ohonynt ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yr wythnos hon, rydym yn cymryd cipolwg ar ein sefydliad partner Urdd Gobaith Cymru.

Urdd Gobaith Cymru

Yr Urdd sy’n cynnal gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru, sef Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir yn flynyddol yn ystod wythnos hanner tymor yr haf neu’r Sulgwyn. Mae mynd i wersyll yr Urdd, cystadlu yn un o gystadlaethau chwaraeon yr Urdd neu’r cyfle i Eisteddfota yn gyfarwydd i fwyafrif o bobl Cymru mewn rhyw ffordd. Wrth nesáu at ei ganmlwyddiant, mae’r Urdd yn cynnig gwledd o weithgareddau ieuenctid yn lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gwersylloedd, eisteddfodau, cystadlaethau academaidd, cyfleoedd i berfformio a digwyddiadau chwaraeon, yn ogystal â fforymau i bobl ifanc gael rhannu eu barn. Maent hefyd yn sefydliad partner i ni yn y Senedd Ieuenctid.

Dywed Sian Lewis, Prif Weithredwraig yr Urdd:

“Wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant, mae’r Urdd yn hynod falch o fod yn Bartner Sefydliad yn ystod ail dymor Senedd Ieuenctid Cymru.

Wrth i ni edrych yn ôl ar hanes yr Urdd, gwelwn pan mor bwysig oedd lleisiau pobl ifanc yn y dyddiau cynnar, a’u rôl allweddol yn y mudiad hyd heddiw ac i’r dyfodol.

Wedi i Sir Ifan sefydlu’r Urdd pan oedd yn 27 oed, aeth ati i ddatblygu ‘Senedd yr Ifanc ‘ yr Urdd ar ôl yr ail ryfel byd, a nododd ‘ni all mudiad ieuenctid ffynnu heb frwdfrydedd a ffresni’r meddwl ifanc’.

Fel mudiad, mae gennym ddyletswydd i roi cyfle i bobl ifanc nid dim ond i ymddiddori yn ein darpariaeth a’i harwain drwy ddatblygu arweinyddion ifanc, ond i gael rôl yn ein strwythurau llywodraethu.

Hoffwn ddymuno’n dda i Senedd Ieuenctid Cymru ac aelodau'r Senedd yn ystod yr ail  dymor.”

   

Beth, felly, sydd gan Greta, y cyn-Aelod o’r Senedd Ieuenctid a gynrychiolodd yr Urdd, i ddweud am ei phrofiadau hi gyda’r Urdd? Llywydd yr Urdd, Marged, fuodd yn ei holi:


Marged: Cyflwyna dy hun i ni.

Greta: Helo, fy enw i yw Greta.

M: Ers pryd wyt ti wedi bod yn aelod o'r Urdd?

G: Dw i wedi bod yn aelod o'r Urdd ers bod fi'n ferch fach yn ysgol gynradd.

M: Pam wnest ti ddod yn aelod o'r Urdd?

G: Ddes i'n aelod o'r Urdd gan fod cymaint o gyfleoedd ar gael yn tyfu i fyny. Yn yr ysgol gynradd, yn yr ysgol uwchradd boed hynny'n chwaraeon, teithiau preswyl, gweithdai hyd yn oed.

M: Pa fath o gyfleoedd rwyt ti wedi derbyn neu bod yn rhan ohonyn nhw drwy fod yn aelod o'r Urdd?

G: Fel dw i'n barod wedi son dw i wedi cael llawer o gyfleoedd gyda'r Urdd yn tyfu i fyny. Rhai pethau sy'n bwysig iawn i fi yw bod fi wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd gyda phobl ar draws Cymru bydden
i ddim wedi cwrdd â fel arall. Fi wedi cael cyfle hefyd ar gyfer fy Lefel A a fy TGAU Bacc er mwyn gwneud gwirfoddoli. Gweithio mewn clybiau ieuenctid yn helpu allan a fi wedi cwrdd â phobl eraill a hefyd cael sgiliau fel cyfathrebu ac arwain.

M: Allan o'r holl brofiadau yna, pa un oedd dy hoff brofiad di?

G: Y profiad gorau dw i bendant wedi cael yw cynrychioli'r Urdd ar Senedd Ieuenctid Cymru. O'n i wedi gallu gwneud cyflwyno areithiau yn y Siambr trafod gwleidyddiaeth gyda phobl ifanc, mynd i gyfarfodydd. Roedd pwyslais ar lais pobl ifanc ac oedd e'n brofiad bythgofiadwy.

M: Be mae'r Urdd yn ei olygu i chdi?

G: I fi, mae'r Urdd yn golygu cyfleoedd i bobl ifanc a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhywbeth yna i bawb a mae'n gyfle i ddefnyddio'r iaith wrth ddysgu, wrth chwarae, wrth fwynhau wrth gasglu profiadau newydd. Mae rhywbeth yna i bawb.

M: Pam wyt ti'n meddwl fod gwaith yr Urdd yn bwysig? Mae gwaith yr Urdd yn bwysig gan fod e'n hybu'r Gymraeg. Mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc i weithio ar eu dyfodol nhw trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd boed hynny yn brofiad gwaith, prentisiaethau neu hyd yn oed cyfle i drio rhywbeth newydd dy'n nhw heb drio o'r blaen. Mae cysylltu pobl ifanc gyda'i gilydd yn gwneud yn siwr bod nhw'n cael
profiadau bythgofiadwy sy'n mynd i helpu nhw yn y dyfodol.

Gallwch wylio cyfweliad Marged a Greta ar ein sianel youtube drwy'r linc canlynol: https://www.youtube.com/watch?v=B6ZS5GJIxto

Edrychwn ymalen i gydweithio gyda'r Urdd am y Senedd Ieuenctid nesaf.