Dy Lais, Dy Ddewis, Dy Ddyfodol

Cyhoeddwyd 08/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/06/2021

Mae dy lais yn bwysig

Cyfle arall i wylio digwyddiad lansio ail Senedd Ieuenctid Cymru o Eisteddfod yr Urdd – ‘Dy Lais, Dy Ddewis, Dy Ddyfodol’.

Gwyliwch Siôn Jenkins (ITV Cymru), Tom Rhydderch (5M Wales), Aleena Khan, Lleucu Non a chyn-Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, Cai Phillips a Talulah Thomas, yn trafod pŵer lleisiau pobl ifanc a pham y dylech chi gynnig eich enw i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru nesaf.