Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn trafod a ddylai pobl allu hawlio cosb resymol fel amddiffyniad i guro plant.
Gofynnwyd i'r Aelodau edrych ar y mater gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ystyried y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Bydd trafod a rhoi syniadau a barn am fusnes y Cynulliad yn rhan bwysig o rôl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Dywedwyd wrth Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru beth oedd y Bil a sut y byddai'n gweithio pe bai'n dod yn ddeddf.
Oes gennych chi ddiddordeb yn yr hyn y byddai'r ddeddf hon yn ei olygu? Darllenwch y blog esboniadol hwn.
Ar ôl dysgu am egwyddorion y Bil, rhannwyd yr Aelodau yn grwpiau a gofynnwyd iddynt drafod materion fel:
· Dylai plant gael yr un hawliau ag oedolion wrth gael eu hamddiffyn rhag ymosodiad;
· Ni ddylai'r Llywodraeth ymyrryd yn yr hyn y mae rhieni / gofalwyr yn ei wneud;
· Nid yw smacio yr un fath ag ymosod neu gam-drin; a
· Mae cosb gorfforol yn dysgu'r gwersi anghywir.
Ar ddiwedd y sesiwn, cymerodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid ran mewn balot ynghylch a oeddent yn credu bod y Bil yn syniad da.
Y canlyniad oedd YDI - 42, NAC YDI - 12 gyda dau yn ymatal.
Mae pleidlais Senedd Ieuenctid Cymru a'r materion a drafodwyd ganddynt bellach wedi'u hanfon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd ar hyn o bryd yn ystyried y Bil yn fanylach fel rhan o broses ddeddfu'r Cynulliad.