Senedd Ieuenctid Cymru yn cefnogi’r Bil Amddiffyniad Cosb Resymol

Cyhoeddwyd 16/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn trafod a ddylai pobl allu hawlio cosb resymol fel amddiffyniad i guro plant.

Gofynnwyd i'r Aelodau edrych ar y mater gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ystyried y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Bydd trafod a rhoi syniadau a barn am fusnes y Cynulliad yn rhan bwysig o rôl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Dywedwyd wrth Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru beth oedd y Bil a sut y byddai'n gweithio pe bai'n dod yn ddeddf.

IMG_20190406_140603.jpg

Oes gennych chi ddiddordeb yn yr hyn y byddai'r ddeddf hon yn ei olygu? Darllenwch y blog esboniadol hwn.

Ar ôl dysgu am egwyddorion y Bil, rhannwyd yr Aelodau yn grwpiau a gofynnwyd iddynt drafod materion fel:

·         Dylai plant gael yr un hawliau ag oedolion wrth gael eu hamddiffyn rhag ymosodiad;

·         Ni ddylai'r Llywodraeth ymyrryd yn yr hyn y mae rhieni / gofalwyr yn ei wneud;

·         Nid yw smacio yr un fath ag ymosod neu gam-drin; a

·         Mae cosb gorfforol yn dysgu'r gwersi anghywir.


Ar ddiwedd y sesiwn, cymerodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid ran mewn balot ynghylch a oeddent yn credu bod y Bil yn syniad da.

Y canlyniad oedd YDI - 42, NAC YDI - 12 gyda dau yn ymatal.

IMG_20190406_141200.jpg

Mae pleidlais Senedd Ieuenctid Cymru a'r materion a drafodwyd ganddynt bellach wedi'u hanfon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd ar hyn o bryd yn ystyried y Bil yn fanylach fel rhan o broses ddeddfu'r Cynulliad.