Ar drothwy ail etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, ymuna ag Angel Ezeadum, Efan Fairclough, Charley Oliver Holland a Gwion Rhisiart wrth iddynt edrych yn ôl ar eu cyfnod fel Aelodau.
Yn y sgwrs, mae’r pedwar yn adlewyrchu ar y profiad o fod yn Aelod – o’r cyfarfod cyntaf yn Siambr y Senedd; cyfarfod ag Aelodau eraill o bob cwr o Gymru; cynrychioli pobl ifanc eu hardaloedd, a gweithio ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc.
Ydi’r sgwrs wedi dy ysbrydoli di i sefyll fel Aelod? Paid ag oedi! Enweba dy hun cyn 20 Medi.
Siarad Siambr : Cyn Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru
Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/09/2021   |   Amser darllen munudau