Tua’r Etholiad: Dyddiadau pwysig ichi

Cyhoeddwyd 22/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2024   |   Amser darllen munudau

Mae enwau’r ymgeiswyr bellach yn hysbys, felly mae’n bryd paratoi i bleidleisio!

I chi’r ymgeiswyr, dyma amser gwych i ddechrau cynllunio’r ymgyrch etholiadol honno, a pharatoi adnoddau i roi gwybod i’ch cyfoedion pam y dylen nhw fwrw pleidlais i chi.

Â’r etholiad yn prysur agosáu, dyma’r holl ddyddiadau allweddol ichi:

Cofrestru i bleidleisio

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio! Os ydych chi rhwng 11 a 17 oed ac yn byw yng Nghymru, mae gyda chi tan 20 Tachwedd i gofrestru, er mwyn ichi allu pleidleisio dros yr ymgeisydd o’ch dewis.

Cyfnod pleidleisio yn agor!

  • Mae'r cyfnod pleidleisio yn agor ddydd Llun 4 Tachwedd, a bydd yn cau ddydd Iau 21 Tachwedd. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, fe fyddwn ni’n anfon nodyn atgoffa atoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n pleidleisio mewn pryd.

Canlyniadau’r etholiad

  • Byddwn yn cyhoeddi Aelodau newydd trydedd Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 2 Rhagfyr.

Cyfarfodydd cyntaf

  • Bydd cyfarfod cyntaf trydedd Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal ar-lein yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 9 Rhagfyr.
  • Byddwn yn croesawu pob ymgeisydd i'w cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf ddydd Sadwrn 25 Ionawr 2025.

Y cyfarfod llawn cyntaf

  • Cynhelir cyfarfod llawn cyntaf yr holl Aelodau o ddydd Gwener 21 i ddydd Sul 23 Chwefror 2025.

Dyma’ch cyfle! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru heddiw, i bleidleisio dros eich Aelod nesaf o Senedd Ieuenctid Cymru.