Amser i Siarad

Cyhoeddwyd 06/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Pwysleisir pwysigrwydd siarad ac ystyried iechyd meddwl yn gyson yn ein cymdeithas ni heddiw, ond mae sbarduno trafodaeth ynglŷn â phwnc mor bersonol yn gallu bod yn anodd i’r mwyafrif helaeth ohonom. O ganlyniad i hyn, mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn i waredu’r stigma sydd o amgylch y pwnc iechyd meddwl. Fel aelod o’u Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, mae’r angen i weithredu ar y pwnc yma’n hollol glir i mi, ac yn sicr rydym am weithio tuag at gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yma yng Nghymru. Ar ddiwrnod ‘Time to Talk’ felly, mae’r cyfle gennym ni i ddechrau trafodaeth am ein hiechyd meddwl gyda chefnogaeth a diffyg stigma, yn ogystal â gofyn i’n teuluoedd, gwarchodwyr a ffrindiau am eu hiechyd meddwl nhw.

Mae diwrnod ‘Time to Talk’ hefyd yn gyfle i ni ddechrau trafod ymgynghoriad iechyd meddwl Senedd Ieuenctid Cymru fydd ar gael I bobl ifanc rhwng 11 a 25 gyflawni ar ddiwedd mis Chwefror. Mae’r pwyllgor sy’n
cynnwys 26 o aelodau wedi bod yn trafod syniadau yn ystod cyfarfodydd rhanbarthol y Senedd Ieuenctid, ac o ganlyniad i hyn rydym wedi adnabod rhai o’r problemau mwyaf o ran iechyd meddwl rydym yn wynebu yma yng Nghymru, sef diffyg ymwybyddiaeth a hyfforddiant i weithwyr, effaith y cyfryngau cymdeithasol, stigma a’r
angen i weithredu. Rydym wedi mynd ati yn barod i weithredu ar rain, trwy gysylltu ag Aelodau Cynulliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan drafod syniadau a darganfyddiadau, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau iechyd meddwl. Cefais gyfle anhygoel i fod yn rhan o lansiad pecyn adnoddau iechyd meddwl Cymraeg www.meddwl.org, gan adrodd yn ôl ar rai o’r problemau fwyaf y mae pobl ifanc yn wynebu heddiw, gan geisio dangos i bobl ifanc yng Nghymru ein bob ni i gyd yn wynebu rhai problemau cyffredin.

Cawsom ni hefyd gyfle i wneud sesiwn carwsél yn ystod ein cyfarfod preswyl diwethaf, ble trafodom ni gyda chynrychiolwyr o’r Awdurdodau Lleol, y sector addysg a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn gyfle gwych i allu trafod yr hyn sydd rhaid ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni ddilyn hyn gyda sesiwn ‘Hawl i Holi’ ble trafododd panel o 4 aelod sut y maen nhw wedi eu heffeithio gan iechyd meddwl.

Y cam nesaf felly oedd datblygu ein hymgynghoriad iechyd meddwl, fydd yn cynnwys dau holiadur; un ar gyfer pobl ifanc a’r llall ar gyfer oedolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Mae’n bwysig iawn i ni fel Senedd Ieuenctid ein bod ni’n cynrychioli barn pob un person ifanc ar draws Cymru ac rydym yn awyddus iawn felly i gymaint o bobl ag sy’n bosib llenwi ein hymgynghoriad. Sicrhewch felly eich bod yn cadw llygad allan am ein holiaduron fydd ar gael ar ddiwedd y mis, a chofiwch heddiw i gymryd y cam a dechrau’r drafodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl.

Angharad EarlesFebruary 6, 2020