Dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

MAE CEISIADAU AR AGOR

A wyt ti’n teimlo’n gryf am wneud yn siŵr bod pobl ifanc Cymru yn cael dweud eu dweud?

Fel un o’r 60 aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, byddi di’n rhoi llwyfan i leisiau pobl ifanc yng Nghymru ar faterion sydd o bwys iddyn nhw.

P'un a wyt ti dim ond yn dechrau ystyried y peth, neu yn barod i ddechrau ar y broses, gwna’n siŵr fod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnat am y broses o ymgeisio ar gael gennyt.

Bydd y ceisiadau'n cau ar 30 Medi 2024

Camau i gychwyn arni


PAM DOD YN AELOD?

O gael effaith ar ran pobl ifanc yng Nghymru, i hyfforddiant, digwyddiadau ac ymgysylltu drwy’r cyfryngau - mae llawer o gyfleoedd unigryw i gymryd rhan.

BOD YN LLAIS

Gallet ti wneud gwahaniaeth trwy godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol o'r materion mae pobl ifanc Cymru yn eu hwynebu.

BOD YN DDYLANWADWR

Bydd cyfle i ti ddylanwadu ar y ffordd y mae Aelodau o’r Senedd yn gweld a deall y materion sy'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru.

DATBLYGU DY SGILIAU

Datblyga dy sgiliau ymchwilio ac arwain, a rho hwb i dy hyder o ran siarad yn gyhoeddus - sgiliau a fydd o fudd i ti am oes.

MEITHRIN DY WYBODAETH

Datblyga dy ddealltwriaeth o sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio a sut mae penderfyniadau'n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.

PROFIADAU UNIGRYW

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn dadlau yn Siambr y Senedd a gwaith ymgysylltu â’r cyfryngau.

RHANNU’R DAITH

Dyma gyfle i wneud ffrindiau newydd, a rhannu profiadau gyda grŵp amrywiol o bobl ifanc.

Leaola Roberts-Biggs, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

DDIM YN SIŴR O HYD?

Dyma beth sydd gan Aelodau blaenorol o Senedd Ieuenctid Cymru i'w ddweud am eu profiad.

 

Lle mae’r Aelodau go-iawn o’r Senedd yn eistedd, rodden ni’n cael eistedd yn eu seddi, lle mae nhw fel arfer yn rhoi eu hareithiau, roedden ni’n cael rhoi ein hareithiau, a lle mae eu lleisiau nhw i’w clywed, roedd ein lleisiau ni i’w clywed”.

Jonathan Powell, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

 

Dwy flynedd anhygoel o gyfarfodydd, cynnydd, ac yn bwysicaf oll, hwyl. Mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol anhygoel sydd wedi rhoi cymaint o fudd i ni ac wedi helpu pobl ifanc ledled Cymru i gael llais.

Evan Burgess, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

 

“Mae bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru wedi helpu fy natblygiad personol yn fawr iawn yn ogystal ag ysgogi fy ffrindiau a phobl ifanc rwy’n eu hadnabod i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.”

TALULAH THOMAS, AELOD SENEDD IEUENCTID CYMRU

Yn barod i wneud cais?

Gwna gais i sefyll yn yr etholiad: cam wrth gam

Mae pedwar peth y mae angen i ti eu gwneud pan fyddi di’n gwneud cais i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.

 


1. Gwna’n siwr dy fod yn gymwys i sefyll etholiad

Bydd angen bod o leiaf 11 mlwydd oed ac yn 17 mlwydd oed ar y mwyaf ar ddiwrnod olaf yr etholiad (sef 25 Tachwedd 2024).

Rhaid i ti hefyd naill ai fyw, neu gael dy addysg yng Nghymru.

2. Creu dy broffil

Bydd angen i ti ddarparu dy:

  • Enw llawn
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost

3. Cwblhau dy gais

Bydd angen i ti gynnwys:

  • Darn 200 gair o hyd amdanat ti dy hun yn esbonio pam y byddet ti'n Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Tri mater sydd bwysicaf i ti, a chofia bod yn rhaid i’r materion hyn fod yn bethau y mae gan y Senedd bwerau drostynt
  • llun ohonot ti dy hun

4. Dylet ofyn i riant neu warcheidwad ddilysu dy gais

Bydd angen i ti roi enw a chyfeiriad e-bost dy riant/gwarcheidwad, er mwyn iddynt ddilysu dy gais.

Oes angen help arnoch gyda'ch cais?

Dewch i sgwrsio â ni yn un o'n sesiynau rhad ac am ddim ar

Ddydd Mercher 18 Medi – 16.30

neu ddydd Mawrth 24 Medi – 18.00

E-bostiwch ni i archebu eich lle.

Ollie Mallin, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Beth mae’n ei olygu i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Fel ASIC, byddi di’n rhan o grŵp o 60 o bobl ifanc yn codi materion sy’n bwysig i bobl ifanc ledled Cymru.

  • Byddi di’n llais i bobl ifanc Cymru ar lefel genedlaethol.
  • Byddi di’n helpu pobl ifanc Cymru i ganfod y materion sy’n bwysig iddyn nhw, codi ymwybyddiaeth ohonyn nhw a’u trafod.
  • Byddi di’n gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, yn cynrychioli eu barn ac yn gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Byddi di’n helpu i benderefynu ar y materion fydd yn flaenoriaeth i Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Byddi di’n codi ymwybyddiaeth ac yn rhannu gwybodaeth am beth mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ei wneud am y materion maen nhw wedi’u codi.
  • Byddi di’n helpu plant a phobl ifanc i ddeall sut mae’r Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio, a’r effaith mae nhw’n ei chael ar fywydau pobl yng Nghymru.
  • Byddi di’n gweithio gydag Aelodau eraill o Senedd Ieuenctid Cymru, yn eu helpu ac yn eu cefnogi.
  • Byddi di’n cwrdd â phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn siarad am dy waith fel rhan o Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Byddi di’n llunio dyfodol Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Byddi di’n helpu i gael mwy o gynrychiolaeth gan bobl ifanc yng Nghymru a datblygu hynny mewn ffordd newydd a chadarnhaol.
  • Byddi di’n cael cyfleoedd unigryw i gymryd rhan mewn hyfforddiant, digwyddiadau amrywiol ac ymgysylltu â’r cyfryngau yn ystod dy amser fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Pa gefnogaeth y byddaf yn ei chael?

Bydd y Senedd yn rhoi cymorth i ti fel bod dy yrfa fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cael dechrau gwych!

Bydd staff y Senedd ar gael er mwyn dy helpu a’th gefnogi pan fyddi di’n Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Byddan nhw’n rhoi cymorth ac arweiniad, ac yn bwynt cyswllt i ti er mwyn holi am gymorth neu gyngor y bydd eu hangen arnat am Senedd Ieuenctid Cymru. Byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i ti’n rheolaidd am y newyddion diweddaraf, a gwybodaeth am gyfarfodydd a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Bydd y Senedd yn talu unrhyw gostau a fydd yn gysylltiedig â dy waith gyda Senedd Ieuenctid Cymru. Gallai’r costau hyn gynnwys:

  • teithio wedi ei awdurdodi
  • llety
  • bwyd
  • mynd i weithgareddau a gaiff eu trefnu gan y Senedd

Byddi di’n cael hyfforddiant ar bopeth y bydd angen i ti ei wybod am y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru. Byddi di hefyd yn cael cefnogaeth gydag unrhyw hyfforddiant ac arweiniad ar unrhyw waith rwyt ti’n rhan ohono gyda Senedd Ieuenctid Cymru, ac unrhyw beth arall y byddi angen help arno ar y daith.

Byddi di hefyd yn cael arweiniad clir a hyfforddiant ar yr holl bolisïau y bydd angen i Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eu dilyn.

Faint o gyfarfodydd y byddaf yn mynd iddyn nhw?

Yn ystod y tymor o ddwy flynedd, bydd 3 chyfarfod o holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn y cyfarfodydd hyn, bydd y 60 o Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn dod at ei gilydd i drafod y materion sy’n bwysig i bobl ifanc Cymru, ac yn pleidleisio arnyn nhw. Pan fydd yn bosibl, bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn y Senedd.

Bydd cyfarfodydd a digwyddiadau rhanbarthol yn cael eu trefnu hefyd. Bydd rhai o’r cyfarfodydd a’r digwyddiadau hyn yn rhai wyneb yn wyneb, a rhai eraill yn gyfarfodydd rhithwir. Bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru drafod y materion allweddol a gaiff eu dewis ar gyfer eu tymor o ddwy flynedd yn dy ardal leol di, a gweithio arnyn nhw.

A oes canllaw i'm helpu i gwblhau fy natganiad ymgeisydd?

Oes, rydym wedi rhoi awgrymiadau defnyddiol at ei gilydd ar eich cyfer.

Dylet edrych ar yr awgrymiadau ar gyfer cwblhau dy ddatganiad ymgeisydd..

Sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru

Dim ond ychydig yn rhagor o gamau a byddi ar dy ffordd i sefyll ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.

Ar eich marciau! Barod ..., beth am ddechrau arni.

Cofrestru i fod yn ymgeisydd