A wyt ti'n fodlon sefyll dros yr hyn rwyt ti’n ei gredu a gwneud gwahaniaeth?
Ysgrifennu dy ddatganiad ymgeisydd yw dy gyfle i ddweud wrth bawb pam mai ti yw'r person cywir i'w cynrychioli yn Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae’n cyfateb i dy stori bersonol di, ble rwyt ti’n dweud dy syniadau a'r pethau rwyt ti’n gobeithio eu gwneud a’u newid
Dylet feddwl amdano fel dy neges i gael ffrindiau ac eraill i'th gefnogi di.
Felly, beth am ddechrau gyda rhai awgrymiadau hawdd i'th helpu i ysgrifennu dy ddatganiad.
Beth yw datganiad ymgeisydd?
Mae datganiad ymgeisydd neu fywgraffiad yn fwy na rhestr o ffeithiau sylfaenol amdanoch chi. Dylai pobl ifanc sy'n darllen eich datganiad allu dysgu rhywbeth amdanoch chi, er enghraifft, pam ydych chi am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?
Pwy fydd yn darllen y datganiad?
Bydd pobl ifanc yn eich ardal neu'ch etholaeth yn gallu darllen eich datganiad fel y gallent benderfynu a hoffent bleidleisio drosoch.
Ble bydd pobl ifanc yn gallu darllen y datganiad?
Bydd eich datganiad ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru fel rhan o'ch proffil.
Faint ddylwn i ei ysgrifennu yn y datganiad?
Ni ddylai eich datganiad fod yn fwy na 200 o eiriau.
Beth ddylwn i ei gynnwys yn y datganiad?
Cofiwch eich bod yn ysgrifennu eich datganiad i berswadio pobl ifanc yn eich ardal neu'ch etholaeth i bleidleisio drosoch.
Efallai yr hoffech chi gynnwys:
- pam yr ydych am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
- Pam y byddech yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru
- Sut fyddech chi'n llais i bobl ifanc
- Sut fyddech chi'n cynrychioli pobl ifanc
- Sut fyddech chi yn cyfrannu at waith Senedd Ieuenctid Cymru
- Pam y dylai pobl ifanc bleidleisio drosoch chi
Dylech gynnwys:
- Eich 3 prif fater fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru; beth fyddai eich ffocws.
Beth sy'n gwneud datganiad da?
Mae datganiad da yn berthnasol, yn gryno ac yn gywir.
Cer amdani! Dechrau ar dy ddatganiad ymgeisydd
A dyna ni.
Mae gennyt bellach yr holl gynghorion a thriciau i greu datganiad ymgeisydd sy'n dy gynrychioli di a'r materion sy'n bwysig i ti.
Mae’n bryd gwireddu’r syniadau hynny nawr!
Cydia mewn beiro, agor dy liniadur, neu hyd yn oed siarad i’th ffôn. Pa bynnag ddull y gwnei ei ddewis, beth am ddechrau ar y gwaith o ddrafftio dy ddatganiad nawr.
Cofia, mae gan dy eiriau di y pŵer i ysbrydoli, i newid pethau a chael effaith wirioneddol.
Gad i’th daith ddechrau heddiw!