Gwna’n siŵr bod dy bleidlais yn cyfrif

Byddi di’n helpu i ethol 40 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru – un person ifanc i bob etholaeth yng Nghymru.

Ond dim ond 40 o bobl ifanc yw hynny – a bydd gan Senedd Ieuenctid Cymru 60 o Aelodau. Felly o ble mae’r 20 arall yn dod?

Byddwn yn gweithio gyda gwahanol sefydliadau partner a fydd yn ethol y 20 Aelod arall o Senedd Ieuenctid Cymru. Drwy roi ein senedd at ei gilydd fel hyn, byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod gennym gynrychiolwyr o grwpiau amrywiol o bobl ifanc.

Bydd gan y 60 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yr un statws â’i gilydd, yr un rolau a’r un cyfrifoldebau.

PENDERFYNA PWY SY’N DY GYNRYCHIOLI!

Byddi di’n defnyddio dy bleidlais i benderfynu pwy sy’n dy gynrychioli di a’th ran di o Gymru yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae Cymru wedi cael ei rhannu’n 40 o ardaloedd llai o’r enw etholaethau. Etholaeth yw’r ardal lle rwyt ti’n byw, yn gweithio neu’n cael dy addysg.

Wrth bleidleisio, rwyt yn dewis y person yr hoffet ei gael i dy gynrychioli di a dy ardal.

Rydym yn rhoi’r etholaethau mewn grwpiau sy’n cael eu galw’n rhanbarthau Cymru. Bydd yr Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a gaiff eu dewis gennyt yn gweithio yn y rhanbarthau hyn, ac yn cwrdd yma’n rheolaidd.

ETHOLAETHAU

POB ETHOLAETH

Gwybodaeth am yr holl ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yn eich ardal chi.