Y Gorau o'n Gwastraff

Cyhoeddwyd 05/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/05/2021   |   Amser darllen munudau

Fy enw i yw Anwen Rodaway a dwi’n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Rydw i hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig.

Rydw i wedi cael amser gwych fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, ac mae'n drist iawn meddwl bod ein tymor yn dod i ben yn barod. Gallaf ddweud yn onest ei fod wedi bod hyd yn oed yn fwy o hwyl ac yn llawer mwy o waith caled nag y gallwn i erioed fod wedi'i ddychmygu.

Cyn bo hir, bydd ein hadroddiad ar Sbwriel a Gwastraff Plastig yn cael ei gyhoeddi i chi gael gweld. Mae'n teimlo fel oes arall pan wnaethom ddechrau gweithio ar y pwnc hwn ond rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y ffordd – hyd yn oed gyda Covid yn achosi cymaint o anawsterau, a bod angen dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.

Roeddwn yn ddigon ffodus i siarad yn y Senedd yn y cyfarfod cyntaf ar y cyd rhwng y Senedd Ieuenctid a’r brif Senedd. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i'n nerfus nes i mi edrych i lawr a gweld fy nwylo'n crynu fel deilen. Ond doedd dim rheswm i boeni oherwydd roedd yr Aelodau o'r Senedd yn gwbl hyfryd ac yn cymryd diddordeb mawr yn yr hyn yr oedd gennym ni i'w ddweud. Dwi wir yn teimlo ein bod ni wedi cael ein clywed.

Anwen-Grace-Roaway.png

Fe wnaeth cyfyngiadau’r coronafeirws ym mis Mawrth gael effaith fawr ar ein gwaith, ac mae ein holl gyfarfodydd weddill y flwyddyn wedi bod yn rhai rhithwir. Rydw i wedi gweld eisiau fy nghyd-aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Rydw i wedi gwneud ffrindiau da, ac mae’r cyfarfodydd rhithwir yn iawn ond does dim byd tebyg i’n cyfarfodydd preswyl lle rydyn ni'n gweithio'n galed drwy'r dydd ac yn ymlacio gyda'n gilydd gyda'r nos.

Roedd yn anodd iawn hyrwyddo ein hymgynghoriad ar Sbwriel a Gwastraff Plastig tra bod yr ysgolion ar gau felly penderfynais geisio helpu. Cysylltais â Hannah Blythyn i ofyn iddi a fyddai ots ganddi ateb ambell i gwestiwn am y pwnc ac roeddwn i wrth fy modd pan y cytunodd. Ar ben hynny, awgrymodd y gallem gael cyfarfod ar-lein i’w rannu gyda gweddill Cymru.

Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i fod yn nerfus ond roedd hi'n hyfryd ac fe gawson ni sgwrs wych am ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol sbwriel a gwastraff plastig yng Nghymru, yr hyn yr oeddem ni'n dwy wedi’i wneud yn ystod y pandemig i ddod o hyd i ffyrdd o ailddefnyddio ac ailgylchu plastig a deunyddiau gwastraff eraill. Fe wnes i rannu sut roeddwn i wedi uwchgylchu blychau llysiau pren, eu leinio â bagiau plastig i greu gwelyau bach wedi'u codi yn yr ardd a thyfu corbwmpenni, betys a chard ynddynt ac adeiladais fwgan brain ar gyfer ein gorymdaith bwgan brain cymunedol. Yn bwysicaf oll, buom yn trafod y gwaith roeddem wedi bod yn ei wneud ar y pwyllgor a'r adroddiad sydd ar ddod.

Cymerais ran mewn trafodaeth banel yn ystod wythnos Senedd Ieuenctid Cymru gyda Steffan Griffiths y cyflwynydd tywydd a rhai o fy nghydweithwyr yn y Senedd Ieuenctid ac eto yn ystod wythnos yr Urdd! Buom yn siarad am yr orsaf ail-lenwi dŵr newydd yn fy nghymuned, i leihau nifer y poteli plastig sy'n cael eu gwerthu – mae hyn yn bwysig iawn gan fy mod i'n byw mewn cymuned arfordirol!

Thursday-PM1.png

Hefyd, cefais sgwrs gyda Lyndsey yn Anabledd Dysgu Cymru, a gwnaethom rannu’r sgwrs hon ar-lein. Buom yn siarad am bob agwedd ar gyfyngiadau’r coronafeirws a sut roeddwn yn ceisio cadw fy hun yn brysur. Gallwch ddod o hyd i lincs i'r rhan fwyaf o'r rhain ar-lein ar fy nhudalennau Twitter a Facebook os oes gennych ddiddordeb.

Yn fwyaf diweddar rydym wedi cyfarfod â Hannah Blythyn fel pwyllgor i drafod canlyniadau cychwynnol ein hadroddiad ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu rhannu'r fersiwn derfynol gyda phob un ohonoch! Mae bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru wedi newid fy mywyd yn llwyr. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i sicrhau'r newid y mae angen i ni ei weld yn y maes hwn yng Nghymru ac yn helpu i arwain y ffordd ar gyfer newid i gymunedau a phobl ifanc ledled y DU a thu hwnt. Dwi wir yn teimlo bod y broses hon wedi dangos nid yn unig bod gennym lais ond ei fod wedi cael ei glywed!