Dod yn sefydliad partner

Mae modd bod yn bartner i Senedd Ieuenctid Cymru

Beth am ddysgu rhagor am y broses bartneriaeth, yr hyn y mae’n gofyn amdano gan yr aelodau, a sut y gallwn gynyddu ymhellach leisiau pobl ifanc ledled Cymru.



SUT ALLA I WNEUD CAIS I DDOD YN SEFYDLIAD PARTNER SENEDD IEUENCTID CYMRU?

Bydd trydydd etholiad Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal yn 2024, a bydd yn rhoi cyfle i 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru – pob un rhwng 11 a 17 oed – sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar lefel genedlaethol. Bydd yn eu galluogi i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru, a thrafod y materion hynny.

Caiff 20 o'r 60 o Aelodau’r Senedd Ieuenctid eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Dyma'ch cyfle chi i ddod yn bartner swyddogol i'r Senedd Ieuenctid!

PWY SY'N GYMWYS I BLEIDLEISIO NEU SEFYLL YN YR ETHOLIADAU?

Bydd 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cynrychioli’r Senedd Ieuenctid, gyda 40 ohonyn nhw’n cael eu hethol drwy system y Cyntaf i’r Felin, drwy system bleidleisio electronig ym mhob un o’r 40 etholaeth etholiadol yng Nghymru. Caiff 20 eu hethol gan sefydliadau partner swyddogol y Senedd Ieuenctid er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Bydd unrhyw berson ifanc sy'n byw yng Nghymru, neu sy'n cael addysg yng Nghymru, sydd rhwng 11 a hyd at 17 oed ar ddiwrnod olaf etholiad y Senedd Ieuenctid (25 Tachwedd 2024), yn gallu sefyll fel ymgeisydd ar gyfer un o'r 40 sedd etholaethol. Bydd yr 20 Aelod arall o Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu hethol gan sefydliadau partner swyddogol y Senedd Ieuenctid. Bydd o leiaf 10 o sefydliadau’n cael eu dewis yn dilyn proses ymgeisio a bydd pob sefydliad yn ethol pobl ifanc sy'n gymwys i sefyll fel Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Yn ail dymor y Senedd Ieuenctid, cafodd 18 o sefydliadau partner eu dewis.

Bydd disgwyl i sefydliadau sy'n gwneud cais i ddod yn bartneriaid swyddogol y Senedd Ieuenctid ethol rhwng un a thri o Aelodau’r Senedd Ieuenctid, a bydd disgwyl iddynt gael ymgeiswyr wrth gefn os na fydd yr Aelodau a gaiff eu hethol gan y sefydliad yn para hyd llawn y tymor.

Gall y bobl ifanc hynny sy'n gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru sefyll fel ymgeisydd yn un o'r 40 sedd etholaethol, ac fel un o'r bobl ifanc a gaiff eu hethol gan sefydliad partner swyddogol y Senedd Ieuenctid ar yr un pryd. Os yw person ifanc yn ennill y mwyafrif o bleidleisiau ar gyfer un o'r 40 sedd etholaethol, ac mai dyma'r ymgeisydd dewisol a gaiff ei ethol gan sefydliad partner swyddogol y Senedd Ieuenctid, y person ifanc fydd yn dewis pa sedd y mae am ei derbyn, a pha un i'w gwrthod. Bydd y sedd a wrthodir yn cael ei chynnig i'r person ifanc a ddaeth yn ail o ran nifer y pleidleisiau yn yr etholaeth honno, neu'n cael ei chynnig i sefydliad partner swyddogol y Senedd Ieuenctid a fydd, wedyn, yn ethol person ifanc arall.

Bydd gan bob un o'r 60 Aelod o'r Senedd Ieuenctid statws cyfartal gyda'r un rôl a chyfrifoldebau, gan gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a fydd yn cynnwys cyfarfodydd a digwyddiadau ymgysylltu ar draws pedair ardal leol (Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru) i hwyluso cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid. Bydd hyd at dri chyfarfod preswyl yn cael eu cynnal hefyd ym Mae Caerdydd yn ystod y tymor dwy flynedd, yn ogystal â chyfleoedd ar-lein i Aelodau’r Senedd Ieuenctid gwrdd, trafod a datblygu eu gwaith yn rhithwir, gan ddefnyddio Microsoft Teams neu Zoom.

Darperir mwy o fanylion ynghylch y broses ymgeisio a'r meini prawf yn ddiweddarach yn y ddogfen hon. Ein gobaith yw y caiff pob Aelod o'r Senedd Ieuenctid ei ethol o ganlyniad i broses etholiadol. Buasem yn ddiolchgar pe gallai sefydliadau partner swyddogol y Senedd Ieuenctid sy'n ethol Aelodau i'r Senedd Ieuenctid wneud hynny gan ddilyn proses etholiad (rhoddir disgresiwn i sefydliad partner swyddogol y Senedd Ieuenctid ddewis model yr etholiad, a gall olygu etholiadau mewnol lle mae aelodaeth y sefydliad yn pleidleisio dros yr ymgeisydd a ffafrir). Rydym yn bwriadu cyhoeddi canlyniadau etholiad y Senedd Ieuenctid ar ein gwefan.

BETH YW CYFRIFOLDEBAU SEFYDLIAD PARTNER SENEDD IEUENCTID CYMRU?

Drwy ddod yn bartner swyddogol i'r Senedd Ieuenctid, byddwch yn:

  • Rhoi cyfle i'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw i ddod yn Aelodau o’r Senedd Ieuenctid.
  • Gwneud y trefniadau angenrheidiol i ethol rhwng un a thri o bobl ifanc sy'n gymwys i fod yn Aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Dylai'r broses hon fod wedi’i chwblhau erbyn 18 Tachwedd 2024.
  • Helpu i hyrwyddo’r Senedd Ieuenctid ac annog pobl ifanc sy’n rhan o’ch sefydliad i gofrestru i bleidleisio.
  • Helpu i roi cyfle i’r person/pobl ifanc yr ydych wedi eu hethol i ennill profiadau fel:
    • Gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru, Aelodau’r Senedd Ieuenctid a phobl ifanc eraill ledled Cymru
    • Cael mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant, a meithrin sgiliau ac ennill profiadau a fydd o fudd iddynt yn ddiweddarach yn eu bywyd.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i'r person/pobl ifanc yr ydych wedi eu hethol i fod yn Aelodau o’r Senedd Ieuenctid, gan gynnwys paratoi ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd, gan gynnwys cymorth ac arweiniad ymarferol ar gyfer cymryd rhan yng nghyfarfodydd ar-lein Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Helpu i hyrwyddo gweithgareddau’r Senedd Ieuenctid, gan gynnwys ymgynghoriadau a digwyddiadau ar y pynciau a ddewisir gan Aelodau’r Senedd Ieuenctid.
  • Helpu i sicrhau bod y Senedd Ieuenctid yn cael ei chynrychioli gan grwpiau amrywiol o bobl ifanc
  • Mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau pan fo angen, gan gynnwys cyfarfodydd misol y sefydliad partner.
  • Cefnogi yr Aelodau o’r Senedd Ieuenctid yr ydych yn eu hethol i ymgysylltu â phobl ifanc eraill a'u cynnwys yn eu gwaith, yn enwedig pobl ifanc sy’n rhan o’ch sefydliad.
  • Rhoi cyngor i staff y Senedd ynghylch y ffyrdd gorau o gefnogi anghenion penodol eu Haelodau.
  • Ymrwymo i fod yn bartner swyddogol y Senedd Ieuenctid drwy gydol y tymor o ddwy flynedd, hyd yn oed os nad yw’r person ifanc a etholwyd i’r rôl yn defnyddio gwasanaethau’r sefydliad partner mwyach.
  • Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus lenwi’r Cytundeb Sefydliadau Partner a’i anfon yn ôl, a byddai angen i’r Aelodau y mae'r sefydliad partner yn eu hethol gytuno â Chod Ymddygiad Senedd Ieuenctid Cymru a’i lofnodi.

PA FATH O GYMORTH SYDD AR GAEL?

Bydd Comisiwn y Senedd yn cefnogi Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a phobl ifanc eraill i gael llais a gwneud gwahaniaeth a thrwy wneud hynny:

  • Sicrhau bod y Senedd Ieuenctid yn agored ac yn dryloyw.
  • Darparu arweiniad, strwythurau llywodraethu cadarn a chod ymddygiad i’w ddilyn gan Aelodau’r Senedd Ieuenctid.
  • Darparu hyfforddiant, sefydlu, cyfarwyddyd a chymorth i helpu Aelodau'r Senedd Ieuenctid i ragori yn eu rôl.
  • Trefnu cyfarfodydd rhanbarthol i Aelodau'r Senedd Ieuenctid ddod at ei gilydd a gwneud penderfyniadau a chael hyfforddiant.
  • Trefnu digwyddiadau ymgysylltu rhanbarthol fel bod Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl ifanc eraill.
  • Trefnu cyfarfodydd o'r 60 Aelod o'r Senedd Ieuenctid ym Mae Caerdydd.
  • Trefnu cyfleoedd diogel ar-lein i Aelodau’r Senedd Ieuenctid gwrdd, trafod a datblygu eu gwaith yn rhithwir, gan ddefnyddio Microsoft Teams neu Zoom.
  • Darparu deunyddiau i Aelodau'r Senedd Ieuenctid i'w helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
  • Trefniadau ar gyfer cyfarfodydd preswyl.
  • Trefnu opsiynau y gall pobl ifanc eu defnyddio i deithio i weithgarwch swyddogol y Senedd Ieuenctid.
  • Trefnu cymorth hygyrchedd perthnasol sydd ei angen ar Aelodau'r Senedd Ieuenctid er mwyn cymryd rhan.
  • Sicrhau bod mentoriaid ieuenctid proffesiynol penodol ar gael, a sicrhau bod gweithdrefnau lles priodol ar waith (h.y. MIND Cymru, Stonewall, NSPCC).

PA GOSTAU NEU ADNODDAU SY’N CAEL EU CYNNWYS?

  • Costau teithio, llety a chynhaliaeth rhesymol i Aelodau'r Senedd Ieuenctid a staff sefydliadau partner, sy'n gysylltiedig â bod yn bresennol yng ngweithgarwch swyddogol y Senedd Ieuenctid.
  • Hyfforddiant swyddogol a ddarperir i Aelodau'r Senedd Ieuenctid.
  • Llogi lleoliad, arlwyo a chymorth hygyrchedd lle bo angen.
  • Adnoddau er mwyn cynnal cyfarfodydd rhanbarthol rheolaidd ar gyfer Aelodau’r Senedd Ieuenctid, digwyddiadau lleol i ymgysylltu â phobl ifanc eraill a chyfarfodydd preswyl i bob un o’r 60 o Aelodau'r Senedd Ieuenctid.

PA YMRWYMIAD AMSER A DDISGWYLIR GAN AELOD O SENEDD IEUENCTID CYMRU?

Disgwylir i bobl ifanc gymryd rhan yn holl weithgarwch swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod y tymor o ddwy flynedd.

Mae gweithgarwch swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys:

Cyfarfodydd sy’n cynnwys pob un o'r 60 o Aelodau. Bydd pob un o'r 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd fel grŵp cyfan yng Nghaerdydd dair gwaith yn ystod eu tymor o ddwy flynedd. Bydd y cyfarfod preswyl cyntaf yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2025.

Digwyddiadau a chyfarfodydd rhanbarthol, lle bydd Aelodau lleol y Senedd Ieuenctid yn gweithio gyda'i gilydd a gyda phobl ifanc eraill yn yr ardal. Cytunir ar y dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau a'r cyfarfodydd rhanbarthol hyn gydag Aelodau'r Senedd Ieuenctid.

Cyfarfodydd ar-lein, lle gall Aelodau o’r Senedd Ieuenctid gwrdd mewn gwahanol grwpiau i drafod eu gwaith. Bydd y patrwm gwaith yn cael ei gytuno gan Aelodau o’r Senedd Ieuenctid unwaith y cytunir ar faterion allweddol ac opsiynau o ran rhaglenni gwaith.

PA FEINI PRAWF Y MAE'N RHAID I MI EU BODLONI I DDOD YN BARTNER?

Gall unrhyw fudiad, o unrhyw faint, o unrhyw ran o Gymru wneud cais i fod yn sefydliad partner.

Bydd angen i sefydliadau sydd am ddod yn bartner swyddogol i’r Senedd Ieuenctid lenwi’r ffurflen gais sefydliad partner, a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn erbyn meini prawf penodol.

Nodwch y bydd sefydliadau'n dal i gael eu hystyried hyd yn oed os nad ydynt yn gallu dangos tystiolaeth o bob un o'r meini prawf a restrir isod.

 

Meini prawf

Er mwyn cael eich ystyried i fod yn sefydliad sy’n gweithio mewn partneriaeth â Senedd Ieuenctid Cymru, bydd angen i chi allu dangos tystiolaeth o’r canlynol:

 

  1. Y bobl ifanc y mae’ch sefydliad yn gweithio'n rheolaidd gyda nhw, ac y byddai’n eu hethol i Senedd Ieuenctid Cymru mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

    Neu, y bobl ifanc y mae’ch sefydliad yn gweithio gyda nhw, ac yn fwyaf fwyaf tebygol o’u hethol, mewn perthynas â'r rhai sy'n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyfranogi oherwydd eu statws neu eu hamgylchiadau personol.

    Gallai’r rhai sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyfranogi gynnwys: pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal neu brofiad o'r system cyfiawnder troseddol, neu bobl ifanc o deuluoedd incwm is.
  2. Profiad eich sefydliad o gefnogi ac ymgysylltu â phobl ifanc.
  3. Sut y byddai’ch sefydliad yn cefnogi Aelod(au) o Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod y roses hon.
  4. Gallu’ch sefydliad i gynnal etholiad i ethol eich Aelod(au) o Senedd Ieuenctid Cymru.
  5. Gallu’ch sefydliad i ethol Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru o rannau o Gymru.
  6. Sut y mae’ch sefydliad yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol wrth weithio gyda phobl ifanc – mewn perthynas ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, GDPR, etc.
  7. Sut y mae’ch sefydliad yn diogelu plant a phobl ifanc yn effeithiol, gan gynnwys cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol, cod ymddygiad staff, rheoli pryderon, cwynion, achosion o chwythu'r chwiban a honiadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant. Sut y mae’n bodloni gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac a fydd yn ymrwymo i weithio'n effeithiol gyda Senedd Ieuenctid Cymru i rannu'r holl wybodaeth diogelu berthnasol.
  8. Faint o bobl ifanc fyddai’ch sefydliad yn gobeithio’u hethol yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a’u cefnogi yn ystod y broses hon.
  9. Sut y byddai’ch sefydliad yn sicrhau bod pobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys pobl ifanc heb unrhyw brofiad blaenorol o fod yn gynrychiolydd ar gorff sy’n hybu cyfranogiad ieuenctid.

SUT YDW I'N GWNEUD CAIS I DDOD YN BARTNERS?

I wneud cais i ddod yn bartner swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru, rhaid i sefydliadau gyflwyno cais, sy'n cwmpasu'r meini prawf a restrir.

Nodwch y bydd sefydliadau'n dal i gael eu hystyried hyd yn oed os nad ydynt yn gallu bodloni/dangos tystiolaeth o bob un o'r meini prawf a restrir. Bydd y wybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei hystyried a'i phwyso yn erbyn ymgeiswyr eraill. Dewisir sefydliadau partner ar sail rhoi hyder i Gomisiwn y Senedd y bydd yr 20 o bobl ifanc a etholir gan sefydliadau partner swyddogol y Senedd Ieuenctid yn cael eu cefnogi'n effeithiol, a'u bod yn amrywiol o ran eu daearyddiaeth, eu hoedran a'u cefndir.

Dylai ymgeiswyr ateb pob maen prawf ar wahân, ac anfon eu ceisiadau trwy ffurflen ar-lein: Ffurflen Gais Sefydliad Partner erbyn 12.00 ar 24 Mehefin 2024.

Anfonwch eich ymholiadau: helo@seneddieuenctid.cymru 

BETH YW'R AMSERLEN AR GYFER Y BROSES YMGEISIO AC ETHOL?

27 Mai 2024
Y broses o wneud cais yn agor.

24 Mehefin
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Gorffennaf 2024
Hysbysu'r sefydliadau sy'n gwneud cais o ganlyniad y broses ymgeisio yn dilyn proses sifftio. Anfon cytundeb at sefydliadau llwyddiannus i’w lenwi.

Gorffennaf 2024
Cyhoeddi pwy yw’r sefydliadau partner swyddogol ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru.

Gorffennaf - Tachwedd 2024
Sefydliadau i siarad â'u haelodau a threfnu etholiadau i ethol Aelodau o’r Senedd Ieuenctid erbyn 18 Tachwedd.

Rhagfyr 2024
Cyhoeddi'r Aelodau

Ionawr 2025
Dechrau'r tymor.

Mawrth 2027
Diwedd y tymor.

Disgwylir i'r sefydliadau hynny sy'n llwyddiannus yn eu cais i ddod yn bartner swyddogol y Senedd Ieuenctid wneud hynny am un tymor sy'n para dwy flynedd, a byddai'r broses ddethol yn dechrau eto ar ddechrau pob tymor newydd.

Cyhoeddir enwau'r 60 sydd wedi llwyddo i ddod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Bydd y tymor yn dechrau ym mis Ionawr 2025 ac yn dod i ben ym mis Mawrth 2027, gan gynnwys toriad o chwe mis rhwng mis Rhagfyr 2025 a mis Mai 2026 i baratoi ar gyfer Etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.

Os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth neu eglurder pellach ar unrhyw agwedd ar ddod yn sefydliad partner, cysylltwch â ni yn helo@seneddieuenctid.cymru.