CYDWEITHIO DROS NEWID. RHO HWB I'N DYLANWAD NI.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o aelodau, sy’n cynrychioli pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae ugain o'n haelodau'n cael eu dewis gan sefydliadau partner - ac rydyn ni’n cysylltu â chi heddiw i’r perwyl hwn!

Gallwch wneud cais i ddod yn sefydliad partner ac ethol aelod i gynrychioli eich sefydliad.

Drwy weithio mewn partneriaeth â ni, byddwch yn rhan o ymdrech ar y cyd i godi llais pobl ifanc yng Nghymru ymhellach.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau rhwng 27 Mai a 24 Mehefin 2024.

 


Lawrlwytho templed cais

Pam y dylech ddod yn sefydiad partner i ni?

Mae dod yn bartner yn golygu y gallwch fod yn rhan o'r daith, tra'n rhoi cyfleoedd heb eu hail i'ch cynrychiolwyr etholedig ddatblygu, ennyn hyder, arwain, a chael effaith barhaol.

GRYMUSO ARWEINWYR Y DYFODOL

Byddwn yn rhoi llwyfan pwerus i'ch cynrychiolwyr etholedig i godi eu llais a chodi ymwybyddiaeth o'r materion sydd o bwys iddynt.

PROFIADAU UNIGRYW

Bydd eich cynrychiolwyr etholedig yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau yn siambr y Senedd a chymryd rhan mewn digwyddiadau cyfryngau proffil uchel.

DATBLYGU CYSYLLTIADAU

Bydd eich cynrychiolwyr etholedig yn ymuno â chymuned gefnogol ac ysbrydoledig sy'n cynnwys pobl ifanc o wahanol gefndiroedd, gan rannu profiadau sy'n gyfoethog ac amrywiol.

SGILIAU GYDOL OES

Byddwn yn annog eich cynrychiolwyr etholedig i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol drwy wahanol gyfleoedd hyfforddi a gweithdai, gan eu helpu i fagu hyder o ran arweinyddiaeth, ymchwil, a siarad yn gyhoeddus.

HYRWYDDO SAFBWYNTIAU AMRYWIOL

Drwy ddod yn bartner, rydych yn sicrhau bod lleisiau eich cynrychiolwyr etholedig o bob cefndir yn cael eu clywed yn y man pwysig— sef ble mae penderfyniadau ar y lefel uchaf yng Nghymru yn cael eu gwneud.

Ollie Mallin, Carers Trust Wales

A ydych yn parhau’n ansicr?

Dyma’r hyn y mae rhai sefydliadau partner a'u haelodau yn Senedd Ieuenctid Cymru wedi'i ddweud am y profiad.

 

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi fy helpu gyda fy sgiliau cyfathrebu, fy sgiliau gweithio mewn tîm, a fy sgiliau gwrando, a fydd yn hynod ddefnyddiol nawr ac ar gyfer y dyfodol ….Rwy’n annog pobl ifanc eraill yn gryf i ymgeisio i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Credwch fi, bydd yn werth chweil a byddwch yn elwa'n fawr ohono.

Bowen Cole, YMCA Abertawe

 

Mae bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn brofiad na fyddaf yn ei anghofio ac mae wedi rhoi’r cyfle i mi weithio gyda 60 o bobl ifanc llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i fod yn llais i bobl ifanc yma yng Nghymru

Cerys Harts, Ffermwyr Ifanc Cymru

 

Roeddwn i eisiau lledaenu’r wybodaeth, nad yw bod yn fyddar yn rhwystr mewn gwirionedd.

Daniel Downton, y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar.

Keira Bailey-Hughes, GISDA

Rhai cwestiynau cyffredin

Beth mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ei wneud?

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn troi’r sain yn uwch o ran lleisiau ifanc ledled Cymru, gan fynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Rydym yn partneru â sefydliadau o’r un anian i wneud yn siŵr bod y Senedd yn cynrychioli cymunedau amrywiol o bob rhan o Gymru.

Beth yw goblygiadau dod yn bartner?

Drwy ddod yn bartner byddwch yn ethol ac yn cefnogi pobl ifanc i gynrychioli eich sefydliad yn Senedd Ieuenctid Cymru. Byddwch hefyd yn helpu i hyrwyddo gweithgareddau Senedd Ieuenctid Cymru gan gynnwys etholiadau, ymgynghoriadau a digwyddiadau.

Edrychwch ar ein canllaw "Dod yn sefydliad partner" i gael rhagor o wybodaeth.

Os byddaf yn dod yn bartner, ydw i wedi fy nghloi?

Wrth ddod yn Bartner swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru rydych yn ymrwymo drwy gydol y cyfnod o ddwy flynedd, hyd yn oed os nad yw’r person ifanc a etholwyd i’r rôl yn defnyddio gwasanaethau eich sefydliad mwyach.

I gael gwybodaeth fanwl darllenwch ein canllaw "Dod yn sefydliad partner".

Beth yw'r ymrwymiad wrth ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Disgwylir i bobl ifanc gymryd rhan yn holl weithgarwch swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys cyfarfodydd yn y Senedd, digwyddiadau rhanbarthol a chyfarfodydd ar-lein. Efallai y bydd cyfleoedd eraill hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a sesiynau drwy gydol y ddwy flynedd.

I gael gwybodaeth fanwl darllenwch ein canllaw "Dod yn sefydliad partner".

Sut mae cyflwyno ein cais?

Rhaid i chi gyflwyno'ch cais i ddod yn bartner drwy ein "Ffurflen Gais Ar-lein".

Os ydych am weithio ar eich cais cyn ei gyflwyno, gallwch lawrlwytho ein "Templed Ffurflen Gais Partneriaeth".

Pa gostau neu adnoddau a delir amdanynt?

Rydym yn sicrhau bod holl aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a staff sefydliadau partner yn cael eu cefnogi’n llawn yn ystod gweithgareddau swyddogol. Mae hyn yn cynnwys talu am gostau teithio, llety a chynhaliaeth rhesymol, darparu hyfforddiant, a hwyluso cyfarfodydd gyda threfniadau ac adnoddau angenrheidiol o ran y lleoliad.

I gael gwybodaeth fanwl am yr hyn sydd wedi'i gynnwys, edrychwch ar ein canllaw "Dod yn sefydliad partner".

Pa gymorth fydd yn cael ei ddarparu?

Mae aelodau yn cael cefnogaeth gynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys canllawiau, hyfforddiant, deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd, trefniadau preswyl, trafnidiaeth, gwasanaethau hygyrchedd, mentoriaeth, a chymorth lles i sicrhau eu bod yn ffynnu yn eu rolau.

I gael gwybodaeth fanwl am yr hyn sydd wedi'i gynnwys, edrychwch ar ein canllaw "Dod yn sefydliad partner".

A all unrhyw sefydliad wneud cais?

Gall unrhyw sefydliad, o unrhyw faint o unrhyw ran o Gymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan wneud cais i ddod yn sefydliad partner Senedd Ieuenctid Cymru.

Edrychwch ar ein canllaw "Dod yn sefydliad partner" i gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf.


Beth am fynd amdani i ddod yn bartner i Senedd Ieuenctid Cymru

Rydych chi ychydig gamau i ffwrdd o ddod yn rhan ganolog o'n cymuned Senedd Ieuenctid.