Roedd Abbey yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Iechyd
meddwl
Addysg
Y
Gymraeg
Hoffwn gynrychioli rhannau gwledig Cymru ac fel eiriolwr dros ffoaduriaid o
Syria, hoffwn roi mwy o lwyfan i'r lleisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn
aml. Hoffwn ddod â syniadau newydd am gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, a
gwneud addysg yn llwyfan mwy cyfartal i bawb a rhoi hwb i'r Gymraeg ar draws
Cymru, yn enwedig gan fy mod yn siaradwr Cymraeg sy’n byw mewn ardal sy'n agos
iawn at y ffin lle mae'r iaith yn ei chael hi'n anodd. Byddwn i'n ymgynghori
â'r ysgolion lleol a Fforwm Ieuenctid Powys, lle dwi’n falch o fod yn aelod.
Mae fy amser yn y fforwm wedi rhoi profiad gwych i mi, sef profiad yr
hoffwn ddod â fo i Senedd Ieuenctid Cymru. Drwy fy ngwaith gyda'r fforwm
ieuenctid ac amser dreulies i yn gwirfoddoli i ddysgu ffoaduriaid o Syria yn fy
ysgol uwchradd ddiwethaf i roi mwy o hyder iddyn nhw mewn mathemateg fe enilles
i Darian Gymunedol Ysgol Uwchradd y Drenewydd eleni. Byddwn wrth fy modd yn
aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a byddwn i'n ystyried ei bod yn anrhydedd i
gynrychioli Sir Drefaldwyn. Diolch yn fawr iawn!