Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Abbey Carter

Abbey Carter

Sir Drefaldwyn

Roedd Abbey yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Abbey Carter

Bywgraffiad

Roedd Abbey yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl
  • Addysg
  • Y Gymraeg

Hoffwn gynrychioli rhannau gwledig Cymru ac fel eiriolwr dros ffoaduriaid o Syria, hoffwn roi mwy o lwyfan i'r lleisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn aml. Hoffwn ddod â syniadau newydd am gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, a gwneud addysg yn llwyfan mwy cyfartal i bawb a rhoi hwb i'r Gymraeg ar draws Cymru, yn enwedig gan fy mod yn siaradwr Cymraeg sy’n byw mewn ardal sy'n agos iawn at y ffin lle mae'r iaith yn ei chael hi'n anodd. Byddwn i'n ymgynghori â'r ysgolion lleol a Fforwm Ieuenctid Powys, lle dwi’n falch o fod yn aelod.

Mae fy amser yn y fforwm wedi rhoi profiad gwych i mi, sef profiad yr hoffwn ddod â fo i Senedd Ieuenctid Cymru. Drwy fy ngwaith gyda'r fforwm ieuenctid ac amser dreulies i yn gwirfoddoli i ddysgu ffoaduriaid o Syria yn fy ysgol uwchradd ddiwethaf i roi mwy o hyder iddyn nhw mewn mathemateg fe enilles i Darian Gymunedol Ysgol Uwchradd y Drenewydd eleni. Byddwn wrth fy modd yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a byddwn i'n ystyried ei bod yn anrhydedd i gynrychioli Sir Drefaldwyn. Diolch yn fawr iawn!

Digwyddiadau calendr: Abbey Carter