Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Abby O'Sullivan

Abby O'Sullivan

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Barnardo's Cymru

Roedd Abby yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Abby O'Sullivan

Bywgraffiad

Roedd Abby yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwell cymorth i bobl ifanc yn y system gyfiawnder
  • Bwlio
  • Gwasanaethau iechyd wedi'u teilwra i'r unigolyn

Rwy'n hoffi bod yn rhan o lawer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys gwirfoddoli gyda St Johns. Rwyf wrth fy modd gydag anifeiliaid ac mae gennyf bedwar ci.

Rwy'n carthu mewn stabl ac yn cael cyfle i farchogaeth. Rwy'n greadigol ac rwy'n mwynhau drama a cherddoriaeth. Mae teulu hefyd yn bwysig iawn i mi.

Mae'r angen i bobl gael eu clywed yn rhywbeth sy'n bwysig yn yr holl faterion rwy'n poeni yn eu cylch. Rwy'n angerddol iawn dros helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yng Nghymru. Rwyf am sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Rwyf am i bobl ifanc yng Nghymru wybod eu bod yn gallu dweud eu dweud a bod ganddynt ddewis ynghylch y materion sy'n effeithio arnynt.

Rwyf am i bobl ifanc ddod at ei gilydd i wybod bod ateb i'w problemau ac y gallent gael dyfodol mwy cadarnhaol trwy ddefnyddio eu llais. Rwyf am fod yn llais i bob person ifanc yng Nghymru, waeth beth fo'u cefndir neu ble maent yn byw yng Nghymru.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Abby O'Sullivan