Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Alys Hall

Alys Hall

Rhondda

Roedd Alys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Diolch, Llywydd. Rydw i'n hynod o ddiolchgar i gael bod yma heddiw er mwyn dathlu digwyddiad mor bwysig i hanes Cymru, sef y sesiwn cyntaf ar y cyd rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad—...

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Alys Hall

Bywgraffiad

Roedd Alys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cefnogaeth i fyfyrwyr ag anghenion arbennig
  • Addysg a chymorth o ran iechyd meddwl
  • Addysg ynghylch y gymuned LHDTC+

Fy enw i yw Alys ac rwy'n mynd i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac ar hyn o bryd ym mlwyddyn 11. Rwyf eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn teimlo bod cymaint o broblemau yn wynebu pobl ifanc yn y Rhondda, a Chymru’n gyffredinol ar hyn o bryd; ac mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwyf eisiau helpu i ddatrys cymaint ohonyn nhw â phosib. Mae'r materion allweddol yr wyf wedi penderfynu mynd i'r afael â nhw i gyd yn bwysig i mi gan fy mod yn teimlo nad ydyn nhw wedi'u cynrychioli'n ddigonol ac maen nhw wedi bod, ac yn dal i fod, yn berthnasol yn fy mywyd i a bywyd fy ffrindiau a’m cyfoedion.

Ers i mi symud i'm hysgol gyfun, rwyf wedi bod ar gyngor a senedd yr ysgol am ddwy flynedd yn olynol, ble bûm yn ddigon ffodus i gwrdd â'r maer a chomisiynydd Plant Cymru. Rwyf wedi bod yn gapten dosbarth ddwywaith ac wedi bod ar y cyngor eco-ysgolion ddwywaith.

Os caf fy ethol, byddaf yn creu cymaint â phosib o gyfleoedd i ymgynghori â phobl ifanc yn fy etholaeth i, pa un ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac e-bost, a byddwn yn gwneud fy ngorau i fynd i'r afael â phryderon a materion pawb.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Alys Hall