Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Andrew Millar

Andrew Millar

Merthyr Tudful a Rhymni

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl a llesiant
  • Sgiliau bywyd - Codi dyheadau
  • Cwricwlwm addysg presennol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Andrew Millar

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Shwmae,

Fy enw i yw Andrew a dw i'n Aelod Cabinet Ieuenctid Merthyr Tudful. Dw i'n wirfoddolwr i elusen leol. Fi yw Maer Ieuenctid presennol Merthyr Tudful. Mae hyn yn golygu mai fi yw dinesydd ieuenctid cyntaf Merthyr Tudful a dw i’n gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod pobl iofanc, eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed, eu hystyried a'u dwyn i’r amlwg.

Yn fy ngwaith ieuenctid blaenorol, dw i wedi helpu i greu'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl i bobl ifanc. Dw i wedi cydweithio ar brosiectau gyda mwy na 40 o asiantaethau partneriaeth gwahanol a siarad am bobl ifanc o flaen torfeydd mawr.

Dros y pedair blynedd diwethaf, dw i hefyd wedi bod yn rhan o nifer o wobrau, digwyddiadau a chyfarfodydd gwahanol yn fy ysgol. Dw i'n aelod o’r Cyngor Ysgol fel uwch-swyddog, a dw i'n mwynhau cynnal cyfarfodydd i drafod beth sy'n bwysig i bobl ifanc yn fy ysgol.

Dw i'n gweithio’n galed i wella cyfathrebu, cyrhaeddiad a chydweithrediad ym mhopeth dw i’n ei wneud.

Diolch, Andrew

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Andrew Millar