Datganiad
Ymgeisydd: Shwmae, Anna Martin ydw i, dinesydd balch o Gymru.
Dw i’n sefyll fel
ymgeisydd WYP i eirioli dros anghenion ein cymuned. Gan fy mod i’n siarad
Rwsieg a Saesneg, dw i’n mynd i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael eich clywed, dim
ots beth yw eich treftadaeth. Fel aelod o’r tîm pêl-droed lleol a’r cadetiaid awyr, dw i wedi datblygu’r sgiliau siarad cyhoeddus sydd eu hangen,
felly byddwch chi’n cael
y cyfraniad gwleidyddol ry’ch chi’n ei
haeddu. Os dw i’n
llwyddo, dw i’n mynd
i wneud yn siŵr
ein bod yn cael dweud ein dweud ar broblemau cenedlaethol. Dw i’n mynd i fod yn llais i bobl ifanc ein
hoed ni drwy siarad allan am y pethau mwyaf bwysig sy’n cael eu hanghofio. Mae
cannoedd o ddiffibrilwyr sy’n achub bywydau yn ein gwlad, ond mae angen mwy o
gyrsiau am ddim i ddysgu disgyblion beth i’w wneud mewn argyfwng a sut i
ddefnyddio nhw.
Llygredd
carthffosiaeth ar ein harfordir
Diffyg cymorth
mewn addysg i blant byddar.
Mae’r pethau hyn
yn hanfodol i bobl ifanc Cymru.
Pleidleisiwch
drosom ni, nid fi, a byddwn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd.