Datganiad
Ymgeisydd: Rydw i yn ymgeisio i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru am fod
gennyf y sgiliau a'r profiad i leisio barn pobl ifanc yn llwyddiannus. Mae
gennyf lawer o brofiad o siarad yn gyhoeddus . Fe enillais wobr (yng Ngogledd
Cymru) wneud cyflwyniad i gystadleath Gyrfaoedd Blasus Cymru a dwi wedi siarad
yn gyhoeddus lawer tro yn yr ysgol ac yn y capel. Y materion byddwn yn
canolbwyntio arnynt yw addysg, yr iaith Gymraeg a iechyd a gofal. Hoffwn weld
dosbarthiadau llai yn ein hysgolion fel bydd athrawon yn medru rhoi mwy o o’u
amser i’r disgyblion fesul pwnc a byddai hyn yn fwy teg. Hefyd hoffwn weld mwy
o athrawon yn cael eu hyfforddi i addysg, weld mwy o bynciau drwy gytrwng yr
iaith Gymraeg. Ynglyn a’r iaith Gymraeg, hoffwn weld mwy o hyfforddiant i
ddefnyddio’r Gymraeg mewn siopau a chwmniau. Cadw enwau Cymraeg ar dai a
ffermydd. Hoffwn weld mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnesau a chwmniau
preifat. Byddwn yn tynnu sylw at y rhestrau hir am driniaeth yn ein hysbytai.
Drwy roi mwy o arian.