Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Anwen Grace Rodaway

Anwen Grace Rodaway

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Anabledd Dysgu Cymru

Roedd Anwen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Anwen wyf fi ac rwy'n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru ar Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n aelod o'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig a hoffwn roi trosolwg byr i chi heddiw o'n sefyllfa...

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

Cyn dechrau, rydw i eisiau cymryd eiliad i ddweud diolch i’r Llywydd am y cyfle i siarad â'r holl Gynulliad yma yn y Siambr heddiw.

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Anwen Grace Rodaway

Bywgraffiad

Roedd Anwen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Materion amgylcheddol - lleihau plastig
  • Digartrefedd - lleihau effeithiau tlodi
  • Awtistiaeth - gwell diagnosis/ymwybyddiaeth/dealltwriaeth

Hoffwn eich cynrychioli chi ar Senedd Ieuenctid Cymru. Mae gen i awydd cryf i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc yng Nghymru ac yn enwedig yn Ngŵyr.  Rwy'n ferch sy'n siarad Cymraeg ac sydd ag awtistiaeth; nid yw merched sydd ar y sbectrwm yn cael diagnosis fel arfer ac maent yn cael eu tangynrychioli ac rwyf am helpu i newid hynny.

Rwy'n caru cerddoriaeth, dawnsio a chwaraeon. Rwyf bob amser yn gwneud fy ngorau. Rwy'n garedig ac yn fawr fy ngofal, ac rwyf bob amser yn barod i helpu. Mae gennyf ymdeimlad dwfn o degwch a chredaf y gallaf helpu i wneud Cymru'n wlad fwy tosturiol i fyw ynddi lle mae pawb yn cael ei drin yn gyfartal.

Rwyf am glywed eich barn chi. Byddaf yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chi allu cysylltu â mi gyda'ch syniadau a'ch awgrymiadau, a byddaf yn gofyn i ysgolion a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc i fy helpu i ddarganfod beth yr hoffent i mi ei helpu i'w newid ym mywydau pobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

Mae Gŵyr yn lle gwych i dyfu i fyny ynddo, ond rydym yn wynebu sawl her os ydym am sicrhau ei fod yn aros fel hyn. Rhaid inni gydweithio i amddiffyn yr amgylchedd a bywyd gwyllt ar y môr ac ar y tir. Pleidleisiwch drosof i am y Gymru yr ydym oll yn ei haeddu.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Anwen Grace Rodaway