Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Arianwen Fox-James

Arianwen Fox-James

Brycheiniog a Sir Faesyfed

Roedd Arianwen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Arianwen Fox-James

Bywgraffiad

Roedd Arianwen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hawliau ieuenctid trawsryweddol mewn ysgolion
  • Gwahaniaethu yn erbyn anableddau (dysgu, corfforol)
  • Mynediad at gyfleusterau yng nghefn gwlad

Rwy'n credu y byddwn i'n gwneud cynrychiolydd da, rwyf i wedi byw yn ein hetholaeth ar hyd fy oes ac rwy’n canfod fy hun yn bersonol wedi fy nhrwytho yn iaith Cymru.

Byddwn yn mwynhau'n fawr y cyfle i gynrychioli pobl ifanc Powys gan fy mod i’n cydymdeimlo â'r anawsterau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n cael eu magu yn ein cymuned wledig, er enghraifft: problemau trafnidiaeth [pa un a ydych chi'n mynychu clybiau ysgol neu'n dymuno cymdeithasu gyda ffrindiau], cefnogaeth i’r gymuned pobl ifanc LGBTQ + a'r gwahaniaethu y maen nhw’n ei wynebu bob dydd. Hoffwn roi llais i bobl ifanc a'r holl anawsterau unigol yr ydym ni’n eu hwynebu yn ein bywydau beunyddiol, boed hynny'n iechyd, corfforol, anabledd dysgu neu dim ond yr ymdrech i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng bywyd cymdeithasol/ cartref a'r ysgol. Rwy'n credu y byddai cynnal sesiwn gymunedol bob pythefnos i bobl leol i drafod eu hawgrymiadau yn ogystal â gwerthfawrogi'r cyfarfodydd fel lle diogel iddyn nhw gysylltu â phobl eraill yn ein helpu i greu cymuned gryfach.

Rwyf i wedi cael fy ethol i gyngor yr ysgol yn ddiweddar ac wedi cael y cyfrifoldeb am gyllidebu. Rwy'n credu y bydd y cyfuniadau o’m sgiliau cymdeithasol a'm brwdfrydedd i helpu a chynorthwyo pobl yn fy ngwneud yn ymgeisydd rhagorol.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Arianwen Fox-James