Datganiad Ymgeisydd: Rydw i wedi bod yn aelod ffyddlon o’r
Urdd ar hyd fy mywyd ac wedi manteisio ar yr holl gyfleoedd a gynigir, gan
gynnwys Eisteddfodau, chwaraeon, gwersylloedd, cyrsiau a theithiau. Rydw i wedi
ennill nifer o fedalau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am gystadlaethau
llwyfan a chelf a chrefft.
Teimlaf fod gennyf wybodaeth helaeth am waith yr Urdd a’i
ddylanwad ar bobl ifanc a hoffwn gael y cyfle i gynrychioli'r mudiad pwysig hwn
ar Senedd Ieuenctid Cymru. Byddwn yn gynrychiolydd cryf, dibynadwy a gweithgar.
Rwy’n berson deallus a chydwybodol sydd bob amser yn rhoi
100%. Gallaf gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rwy’n barod i
wrando ar safbwyntiau pobl eraill a chyfleu eu teimladau.
Mae gennyf wybodaeth gyffredinol dda am y materion sydd yn
effeithio ar Gymru heddiw ac rwy’n awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth hon i wneud
gwahaniaeth cadarnhaol.
Mae’r Urdd wedi fy helpu i mewn nifer o wahanol ffyrdd a
hoffwn roi rhywbeth yn ôl a helpu pobl ifanc eraill a chenedlaethau’r dyfodol.