Cafodd Callum ei
ailethol i Senedd Ieuenctid Cymru yn 2024, gan gynrychioli NYAS, ar ôl bod yn
Aelod o Ail Senedd Ieuenctid Cymru (2021-2024)
Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Callum, rwy’n 17 oed ac rwy’n byw yng Nghaerdydd lle
rwy’n astudio Safon Uwch Seicoleg, Saesneg a Chymdeithaseg yng Ngholeg Chweched
Dosbarth Catholig Dewi Sant. Rwy’n hapus iawn o gael cynrychioli NYAS Cymru yn
Senedd Ieuenctid Cymru. Rwyf wedi bod yn
aelod o NYAS Cymru (Grŵp
Cynghori Pobl Ifanc) ers haf 2022.
Mae gen i angerdd
dros newid i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o
brosiectau gwahanol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal fel aelod o grŵp Cyfranogiad Caerdydd, Bright Sparks a’r Grŵp Cynhgori Pobl Ifanc. Rwyf wedi cynnal Gwobrau Bright Sparks yn
Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir yng Nghaerdydd ac ynghyd â gweddill y grŵp, fe wnes i benderfyniadau ynglŷn â’i gynllunio, dewis yr enillwyr ac ati.
Roedd cynllunio’r
gwobrau hyn a siarad ynddynt yn brofiad da iawn oherwydd cynyddodd fy hyder.
Cynrychiolais
NYAS fel Llysgennad Ifanc yn uwchgynhadledd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc
sydd â phrofiad o ofal. Yn y cyfarfod ac mewn cyfarfodydd cyn hynny fe wnaethom
ni gynllunio’r hyn yr oeddem yn mynd i’w ddweud pan roeddem yn cwrdd â Phrif
Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill. Aeth ein syniadau am sut i greu newid i
eraill fel ni i mewn i ddatganiad a lofnodwyd gan gyn Brif Weinidog.
Roeddwn i’n rhan
o Bwyllgor Gwerthuso Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd, lle rhannais i a phobl
ifanc eraill ein barn ni ynglŷn
â ble mae Caerdydd ar ei
thaith i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant.
Bûm hefyd mewn
cyfarfod gyda chynghorwyr o’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol yn Neuadd y Sir,
lle rhannais i lawer o syniadau am newidiadau sydd angen eu gwneud ar gyfer
plant a phobl ifanc fel ni.
--------------------
Dyma ei
ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Ail Senedd Ieuenctid
Cymru (2021):
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Ymwybyddiaeth
o faterion LGBTQIA+
- Materion
niwrogyfeiriol sy’n effeithio arnynt
- Effaith
Newid Hinsawdd ar ein planed
Fy enw i yw
Callum, ac ro’n i’n 15 oed ym mis Rhagfyr 2022. Rwy wedi bod yn ymwneud â’r
Senedd Ieuenctid ers haf 2022 ac fe hoffwn fod yn gynrychiolydd arni oherwydd
mae gennyf angerdd dros newid ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn
gofal. Rwy wedi bod ynghlwm wrth lawer o brosiectau gwahanol fel aelod o Bright
Sparks a’r YPAG, rwy’n mwynhau bod yn rhan o weithgareddau ac yn teimlo y
byddwn yn gynrychiolydd o fri dros eich barn chi ac eraill os byddwch chi’n
rhoi’r cyfle i mi.