Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Elizabeth Bartlett

Elizabeth Bartlett

Islwyn

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Yr Amgylchedd – Pobl a’r Blaned
  • Llais Ieuenctid
  • Trafnidiaeth

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Elizabeth Bartlett

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Pam ddylech chi bleidleisio drosof fi? Dw i’n angerddol dros helpu a gwrando ar broblemau pobl; dw i eisiau cael effaith. Dw i’n siarad yn dda, yn hyderus ac yn glyfar ac mae beth sydd gennych chi i’w ddweud yn bwysig i mi. Fel eich aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydden i’n codi eich llais. Pa broblemau sydd gennych chi?

Mae gen i brofiad yn siarad cyhoeddus, yn dadlau ac yn gwneud gwaith ymchwil. Fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc, dw i wedi cadeirio trafodaethau a chymryd rhan mewn prosiect ymchwil cyfoedion, ble dysgais sut i ddeall barn pobl ac egluro’r farn i gynulleidfa ehangach. Dw i hefyd yn rhan o lawer o grwpiau cynghori sy’n canolbwyntio ar bynciau fel iechyd meddwl, addysg, democratiaeth, LHDTQ+ a’r amgylchedd, a dw i’n aml yn mynd i’r afael â llywodraethu. Mae gen i sgiliau pobl da, dw i’n cynnal gweithdai addysgu ar sut i drwsio dillad a dw i’n deall materion carbon.

Mae llawer o bethau’n bwysig i mi ond fy niddordeb pennaf yw beth sy’n effeithio arnoch chi; dw i’n awyddus i wrando ar eich problemau a’u trafod yn y Senedd!

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Elizabeth Bartlett