Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ellis Peares

Ellis Peares

Caerdydd Canolog

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hawliau LHDTQ+
  • Iechyd Meddwl
  • Cwricwlwm ysgolion

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ellis Peares

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i yw Ellis, rwy'n 14 oed ac yn Gymro hoyw dwyieithog balch. Hoffwn ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn i mi allu cynrychioli fy nghyfoedion a rhoi llais i bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol Cymru. Mae gen i ddealltwriaeth dda iawn o wleidyddiaeth a'r effeithiau y mae'n eu cael ar bobl ifanc yng Nghymru. Gan ddefnyddio fy nealltwriaeth yn hyn o beth, gallaf helpu i wella bywyd pobl ifanc yng Nghanol Caerdydd a thu hwnt. Mae gwleidyddiaeth wedi bod yn ddiddordeb i mi ers amser maith. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i allu cwrdd â gwleidyddion o amrywiaeth o bleidiau. Ar hyn o bryd rwy'n aelod o Fwrdd Ieuenctid Caerdydd a'r Fro, sy'n cynnwys gweithio gyda sawl sefydliad gwahanol i sicrhau gwell ffordd o fyw i bobl ifanc. Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl, hawliau LHDTQ+ a chwricwlwm ysgolion. O’m profiadau fel disgybl, credaf y gallaf wneud addysg yn amgylchedd mwy cefnogol a chynhwysol i blant a phobl ifanc Cymru.

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 - 29/02/2024

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Digwyddiadau calendr: Ellis Peares