Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Tyfu
economi Cymru
- Cynyddu
twristiaeth gynaliadwy
- Gwella
trafnidiaeth yng Nghymru
Fy enw i yw Evan Burgess, rydw i'n 13 mlwydd oed. Y tri phwnc y bydda i'n
eu blaenoriaethu os ydw i'n cael fy ethol fydd; tyfu economi Cymru, cynyddu
twristiaeth gynaliadwy a gwella trafnidiaeth yng Nghymru. Rydw i'n credu y bydd
datblygu'r meysydd hyn yn creu Cymru fwy ffyniannus.
Rydw i'n feiciwr cystadleuol, wedi cystadlu ar lefel genedlaethol ac yn
gwerthfawrogi tirwedd arbennig Cymru. Mae gen i sgiliau pobl helaeth ac rydw
i'n siaradwr profiadol a hyderus yn gyhoeddus, gyda phrofiad o siarad mewn
ysgolion, confensiynau a chystadlaethau.
Rydw i wedi trafod a ffurfio polisïau yn yr ysgol ac wedi eistedd ar
nifer o gynghorau, gan gynrychioli safbwyntiau o gefndiroedd amrywiol a
chyflawni newidiadau dwys.
Rydw i'n gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac wedi derbyn gwobrau yn y
ddwy iaith. Rydw i'n gobeithio bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru i rymuso
pobl ifanc a gwella dyfodol Cymru. Mi fydda i'n ymgynghori â phobl ifanc yn y
gymuned drwy fynd allan i siarad â phlant a gofyn eu barn. Hefyd, mi fydda i'n
ymweld ag ysgolion ac yn defnyddio holiaduron i glywed barn yn effeithiol.
Dylai pobl bleidleisio drosta i gan fy mod i'n benderfynol o wella Cymru, rydw
i'n unigolyn sy'n llawn cymhelliant, yn gweithio'n galed, ac mae gen i
safbwyntiau cryf ar wleidyddiaeth ac mi fydda i'n sicrhau bod eich llais chi’n
cael ei glywed y Senedd.