Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Evan Burgess

Evan Burgess

Aberconwy

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Evan Burgess

Bywgraffiad

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Tyfu economi Cymru
  • Cynyddu twristiaeth gynaliadwy
  • Gwella trafnidiaeth yng Nghymru

Fy enw i yw Evan Burgess, rydw i'n 13 mlwydd oed. Y tri phwnc y bydda i'n eu blaenoriaethu os ydw i'n cael fy ethol fydd; tyfu economi Cymru, cynyddu twristiaeth gynaliadwy a gwella trafnidiaeth yng Nghymru. Rydw i'n credu y bydd datblygu'r meysydd hyn yn creu Cymru fwy ffyniannus.

Rydw i'n feiciwr cystadleuol, wedi cystadlu ar lefel genedlaethol ac yn gwerthfawrogi tirwedd arbennig Cymru. Mae gen i sgiliau pobl helaeth ac rydw i'n siaradwr profiadol a hyderus yn gyhoeddus, gyda phrofiad o siarad mewn ysgolion, confensiynau a chystadlaethau.  Rydw i wedi trafod a ffurfio polisïau yn yr ysgol ac wedi eistedd ar nifer o gynghorau, gan gynrychioli safbwyntiau o gefndiroedd amrywiol a chyflawni newidiadau dwys.

Rydw i'n gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac wedi derbyn gwobrau yn y ddwy iaith. Rydw i'n gobeithio bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru i rymuso pobl ifanc a gwella dyfodol Cymru. Mi fydda i'n ymgynghori â phobl ifanc yn y gymuned drwy fynd allan i siarad â phlant a gofyn eu barn. Hefyd, mi fydda i'n ymweld ag ysgolion ac yn defnyddio holiaduron i glywed barn yn effeithiol. Dylai pobl bleidleisio drosta i gan fy mod i'n benderfynol o wella Cymru, rydw i'n unigolyn sy'n llawn cymhelliant, yn gweithio'n galed, ac mae gen i safbwyntiau cryf ar wleidyddiaeth ac mi fydda i'n sicrhau bod eich llais chi’n cael ei glywed y Senedd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Evan Burgess