Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffion Griffith

Ffion Griffith

Islwyn

Roedd Ffion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 20/11/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffion Griffith

Bywgraffiad

Roedd Ffion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwell cymorth iechyd meddwl
  • Addysg a sgiliau bywyd o ansawdd
  • Hyrwyddo heddwch a chynaliadwyedd

Dwi’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ers imi gynrychioli Cymru mewn cynhadledd am Ddemocratiaeth yn Bratislava a byddwn i'n llysgennad balch ar gyfer fy ardal.  Rwy'n sylweddoli bod yr hawl i gael llais yn bwysig ac y dylai pobl ifanc gael cymaint o lais am faterion sy'n effeithio arnyn nhw ag oedolion. Erbyn hyn, mae pobl ifanc yn fwy ymwybodol o'u hawliau, diolch i waith y Cynulliad Cenedlaethol ac ysgolion a'r ffordd orau iddyn nhw ddysgu mwy am wleidyddiaeth yw cymryd rhan.

Mae gwasanaethu ar gyngor fy ysgol ers 4 blynedd wedi fy ngwneud i’n hyderus wrth gyfathrebu. Gallaf wneud cysylltiadau effeithiol rhwng pobl ifanc a'r senedd, trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ymweld ag ysgolion i glywed eu barn neu gynnal fforwm ieuenctid. Rwy'n un dda am wrando, yn siarad Cymraeg ac yn barchus iawn tuag at fy diwylliant fy hun a diwylliannau a chredoau eraill.

Rwy'n gobeithio cynrychioli llawer o faterion pwysig i bobl ifanc, yn enwedig iechyd ac addysg. Gyda llawer o bwysau ar bobl ifanc heddiw, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, pwysau cyfoedion a chyflogaeth, mae pobl ifanc yn haeddu gwell darpariaeth ar gyfer gofal iechyd meddwl ac addysg sy'n eu paratoi yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn foesol er mwyn bod yn ddinasyddion iach a gweithgar yng Nghymru.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Ffion Griffith