Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffion-Hâf Davies

Ffion-Hâf Davies

Gŵyr

Roedd Ffion-Hâf yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

yn cael eu clywed a bod y broblem blastig yn cael ei chymryd o ddifri. Ein hunig obaith nawr yw eich bod chi i gyd yn parhau i wella’r broblem a chadw ein gwaith yn fyw. Diolch.

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror 2019, gwnaethon ni fel Senedd Ieuenctid ddewis sbwriel a gwastraff plastig fel un o'n prif faterion. Rydym ni fel Aelodau wedi bod yn siarad o fewn ein he...

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffion-Hâf Davies

Bywgraffiad

Roedd Ffion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cywilyddio corfforol
  • Hawliau menywod
  • Hawliau LHDTC+

Fy enw i yw Ffion-Hâf ac rwy'n bymtheg oed. Rwy’n ferch sydd wrth ei bodd â Disney, Hufflepuff, yn ffeminist ac yn ferch siapus gyda llawer o farn ac awch am gydraddoldeb. Rwyf wedi bod ar gynghorau ysgol ddwywaith ac rwyf yn aelod gweithgar o'r pwyllgor gwrth-hiliaeth ac islamoffobia, y pwyllgor ffeministiaeth a phwyllgor hawliau LGBTQ+. Ym mhob un o'r swyddogaethau hyn rwyf wedi bod yn awdurdodol, wedi rhannu fy marn, wedi meddwl am atebion a helpu i wneud gwahaniaeth. Mae fy natur i hefyd yn un hyderus ac yn gweithio'n dda mewn grŵp felly byddaf yn gaffaeliad gwych ir Senedd.

Er gwaethaf hyn oll, yn anad dim rwy'n normal. Nid wyf i am werthu fy hun fel bod yn rhywun penigamp gan nad wyf yn hynny, na’r gorau chwaith gan fod bob amser rywun sy’n well, ond rwy’n normal ac rwyf i yr un fath â chi. Fel chi, mae gen i broblemau ac anghydraddoldebau rwy’n eu hwynebu bob dydd ac fel chi hefyd, byddwn wrth fy modd pe bydd rhywbeth y gallem ei wneud am hynny. Ond wyddoch chi beth? Mae yna rywbeth y gallwch chi ei wneud. Os byddwch chi'n pleidleisio drosof i, rwy'n addo y byddaf yn gwneud popeth i frwydro drosoch a chynrychioli eich barn. Ni fyddaf yn eistedd mewn cornel a chael fy nistewi. Byddaf yn cael fy nghlywed ac felly byddwch chithau hefyd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Ffion-Hâf Davies