Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Finley Mills

Finley Mills

Dyffryn Clwyd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Addysg bywyd - gwleidyddiaeth, trethi, ac ati
  • Cyfleusterau hamdden gwell i bobl ifanc
  • Hyrwyddo'r Gymraeg yn effeithiol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Finley Mills

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Rydw i am fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn llais ieuenctid yn fy etholaeth, i roi cynrychiolaeth go iawn i leisiau pobl ifanc.  Rydw i am i lais fy etholwyr gael ei glywed yn glir, ac rydw i am godi materion sy’n bwysig iddyn nhw yng Nghymru.

Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc drwy'r cyfrwng mwyaf hygyrch i bobl ifanc, y cyfryngau cymdeithasol.  Byddaf yn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu anfon neges uniongyrchol ataf i leisio unrhyw bryderon am yr ardal, ac i drafod yr hyn y byddaf yn gallu ei wneud i wella eu hardal.

Rwy’n credu y dylai pobl bleidleisio drosof oherwydd byddaf yn aelod hygyrch o Senedd Ieuenctid Cymru sy'n ymgysylltu â phobl ifanc drwy'r cyfryngau cymdeithasol.  Rwy’n credu dylai pobl ifanc bleidleisio drosof oherwydd rydw i am wrando ar eu pryderon, a rhoi terfyn ar unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.

Rwy’n credu bod gen i lawer o brofiad sy'n drosglwyddadwy, a fyddai'n fy ngwneud i’n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru. Byddai fy mhrofiad ar y cyngor ysgol ac ar banel cynghori Comisiynydd Plant Cymru yn fy ngwneud yn ymgeisydd gwych, gan fod hyn wedi dysgu sgiliau gwrando a chyfathrebu i mi.  Bydd y sgiliau hyn yn werthfawr dros ben wrth ymgysylltu ag etholwyr.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Finley Mills