Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Finn Sinclair

Finn Sinclair

Preseli Sir Benfro

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cydraddoldeb rhywiol mewn chwaraeon ysgol
  • Dewis myfyrwyr o ran pynciau ysgol
  • Gwella ansawdd dŵr mewndirol/arfordirol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Finn Sinclair

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Byddwn i’n gwrando ar bobl ifanc ym Mhreseli Sir Benfro a gweddill Cymru, ac yn lleisio eu barn, gan sicrhau y caiff eu barn ei chlywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth. Bydda i’n ymgynghori â phobl yn fy ardal drwy drafodaethau personol (os caniateir hynny), neu gyfarfodydd ar-lein; ac yn ddigidol, fel arolygon.

Mae bod ar fy nghyngor ysgol am ddwy flynedd wedi rhoi sgiliau i mi a fyddai’n ddefnyddiol yn Senedd Ieuenctid Cymru. Dw i'n mwynhau cael trafodaethau a dadleuon, yn aml yn casglu barn myfyrwyr i helpu i lywio penderfyniadau ysgol.

Mae angen i ni fynd i'r afael ag ystrydebau rhyw ym mhobman, ond dylai rhan hanfodol o hyn ddigwydd yn ein hysgolion. Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw hanes cyfleoedd chwaraeon anghyfartal yn digwydd eto yn ein lleoliadau addysg.

Mae’n hanfodol grymuso pobl ifanc i gymryd mwy o reolaeth dros beth maen nhw’n astudio er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial a chymryd perchnogaeth o'u dyfodol. Dim ond ychydig o bynciau sy’n cael eu hastudio hyd at CA4 sy'n cael eu dewis gan fyfyrwyr; er fy mod i’n credu mewn cwricwlwm eang, mae TGAU gorfodol yn aml yn atal disgyblion rhag astudio pynciau sydd o fwy o ddiddordeb iddyn nhw. Mae'n bryd i ddysgwyr gael mwy o ryddid dros beth maen nhw’n astudio; bydd e’n effeithio arnon ni fwyaf.

Mae eich llais chi o bwys.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Finn Sinclair