Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Grace Louise Barton

Grace Louise Barton

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Roedd Grace yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Grace Louise Barton

Bywgraffiad

Roedd Grace yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwahaniaethu
  • Hybu Lleisiau Gofalwyr Ifanc
  • Codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr ifanc

Rwy'n falch o gynrychioli barn Gofalwyr Ifanc ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau cyngor ieuenctid newydd er mwyn i ofalwyr ifanc allu lobïo am faterion sy'n bwysig i ni. Nid oes unrhyw stereoteip o ran materion Gofalwyr Ifanc ac mae pryderon pawb yn rhai unigol. Rwy'n teimlo y gallaf chwarae rhan weithredol o fewn y cyngor.

Rwyf yn credu'n fawr iawn mewn hawliau a chyfleoedd cyfartal ac rwy'n edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth o'r anghenion a'r materion y mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn pryderu amdanynt yn ogystal â chodi eu proffil a chodi ymwybyddiaeth.

Rydw i wedi bod yn ofalwr ifanc ar hyd fy oes, ac yn gwybod yn iawn am y manteision a'r anfanteision o fod yn ofalwr. Rwy'n arbennig o angerddol dros gefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr ym myd addysg. Roedd hyn yn anodd i mi ac rwy'n awyddus i godi'r materion hyn yn y senedd ieuenctid i'w hystyried ac i godi ymwybyddiaeth ohonynt. Rwy'n gyfathrebwr brwd ac rwy'n teimlo y gallaf gynrychioli gofalwyr ifanc yn hyderus yn y rôl newydd hon.

Rwyf ar hyn o bryd yn astudio cwrs blynyddoedd cynnar a gofal plant lefel 3 ac rwy'n gobeithio ennill lle i astudio i fod yn Nyrs Anabledd Dysgu yn y dyfodol.

Digwyddiadau calendr: Grace Louise Barton