Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Harriet Wright-Nicholas

Harriet Wright-Nicholas

Caerffili

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Tlodi plant
  • Gorddibyniaeth ar arholiadau
  • Llygredd aer

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb ysgrifenedig i'r adroddiad, a’i chynnig i weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru dros y misoedd nesaf. Rydym wrthi ar hyn o bryd...

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

Diolch, Llywydd. Ers lansio ein hymgyrch, mae'r pwyllgor iechyd meddwl a lles wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o nifer o broblemau allweddol o fewn y gwasanaethau iechyd...

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Harriet Wright-Nicholas

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Hoffwn i ddod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn helpu'r bobl ifanc yn fy nghymuned i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol. Bydda i’n eich cynrychioli chi, a'ch barn. Mae angen i ni siarad, a fi fydd eich llais.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae diffygion yn ein system addysg wedi cael llawer o sylw, ac un ohonyn nhw oedd yr orddibyniaeth ar arholiadau. Mae angen mwy o bwyslais ar waith cwrs, a llai ar un arholiad i bob pwnc, sydd i fod i bennu ein dyfodol. Ddylai e ddim. Dw i'n addo gwthio newid.

Mae bron un o bob tri o blant yn dal i fyw mewn tlodi yng Nghymru. Mae diffyg cyfleoedd addysgol fforddiadwy i fyfyrwyr, er enghraifft, mae teithiau ysgol drud yn eithrio'r rhai o gefndiroedd tlotach. Mae angen i hyn newid.

Dw i’n bwriadu cynnig cyfle i bobl ifanc yng Nghaerffili ymuno â chyfarfod rhithwir unwaith y mis. Byddwn ni’n casglu eu barn ac yn rhannu syniadau.

I gloi, mae gen i'r sgiliau cyfathrebu ac arwain sydd eu hangen i fod eich llefarydd chi. Dw i'n ystyried fy hun yn siaradwr hyderus, mae gen i brofiad o gyflwyno’n genedlaethol, perfformio i gynulleidfaoedd mawr, a gwirfoddoli yn fy nghymuned.

Diolch.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Harriet Wright-Nicholas