Datganiad
Ymgeisydd: Bachgen Somali 13 oed o Gaerdydd ydw i, wedi fy magu mewn teulu
mawr, amlddiwylliannol sydd wedi llunio fy hunaniaeth. Rwy'n mynychu'r ysgol ar
ysgoloriaeth lawn, sydd wedi fy ngalluogi i ragori yn academaidd a chofleidio’r
pethau rwyf yn angerddol yn eu cylch. Rwyf wrth fy modd â chwaraeon fel nofio,
pêl-droed, ac athletau, sy’n fy nysgu am ddisgyblaeth a gwaith tîm. Yn
academaidd, rwy'n mwynhau mathemateg a gwyddoniaeth, yn ogystal â'r celfyddydau
a'r dyniaethau. Mae fy ngweithgareddau allgyrsiol yn cynnwys dadlau a chymryd
rhan yng Nghynadleddau Ffug y Cenhedloedd Unedig (neu’r MUN), lle rwy’n
datblygu sgiliau o ran meddwl yn feirniadol, a diplomyddiaeth.
Fel llysgennad
dysgwyr ac aelod o gyngor yr ysgol, rwy’n eiriol dros fy nghyfoedion, gan
sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae fy ffydd Fwslimaidd a
threftadaeth Somali yn ganolog i fy hunaniaeth, gan arwain fy ngwerthoedd a
dyfnhau fy nghysylltiad â’m gwreiddiau. Wrth dyfu i fyny fel person ifanc Du
yng Nghymru, rwyf wedi profi heriau ond yn parhau i fod yn ymrwymedig i eiriol
dros gydraddoldeb hiliol, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfiawnder hinsawdd.
Rwyf o’r farn y gall pobl ifanc arwain newid a chreu dyfodol cynhwysol i bawb.