Datganiad
Ymgeisydd: Rydw i’n fyfyriwr hyblyg, sylwgar sy'n dda am ddatrys problemau a
chysylltu â phobl. Rydw i’n hoffi cyfnewid syniadau a siarad yn gyhoeddus a
hoffwn wneud gwahaniaeth yn y gymuned amlddiwylliannol lle rydw i’n byw.
Astudiais yn yr
Ysgol Uwchradd yn Nhwrci cyn dod i Gymru fel ffoadur. Rydw i wedi dilyn cwrs
mewn Iaith Arwyddion Tyrceg, a choginio, rydw i wedi astudio a mwynhau drama ac
yn hoffi chwaraeon, darllen, dysgu am faterion cyfoes a diwylliannau gwahanol.
Rydw i bellach
mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd, ac rydw i’n mwynhau gwirfoddoli, rydw i’n
greadigol ac rydw i wedi mwynhau gwneud ffilmiau byr a dysgu sgiliau digidol.
Rydw i’n poeni am
faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru ac rydw i’n hapus i fod yn
aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Rydw i’n hapus i fod yn rhan o ddatrysiadau yn
y dyfodol ar gyfer y materion rydw i’n teimlo’n angerddol amdanynt:
>>>>
>>>Gwahaniaethu
- cydraddoldeb yw'r hawl ddynol bwysicaf
>>>Bwyta'n
iach - mae peidio â gwybod sut i fwyta a choginio'n iach yn cael effaith
andwyol ar iechyd pobl ifanc.
>>>Ysmygu
dan oed - mae pobl ifanc yn dechrau fepio heb wybod beth yw’r niwed y gallai ei
achosi, a gallai fod yn fwy difrifol nag ysmygu.
<<<