Datganiad Ymgeisydd: Cefais fy magu ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac roeddwn i’n mynd i ysgolion cynradd yn Lloegr, ond dw i’n mynd i ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae cymaint o rannau o hanes dw i ddim yn gwybod amdanynt, gan nad oedd yn cael ei addysgu yn yr ysgol uwchradd: dim ond mewn ysgolion cynradd dw i erioed wedi mynd iddyn nhw. Un nod sydd gen i yw newid y cwricwlwm ysgolion uwchradd i addysgu mwy o hanes sy’n fwy creiddiol i’n gwlad, fel bod plant fel fi’n gallu deall pwy ydyn nhw i raddau pellach na’u treftadaeth Seisnig.
Gan fy mod i’n LHDT+ ac yn fenyw, dw i wedi profi tipyn o wahaniaethu, sydd bron yn anochel. Fodd bynnag, gyda system addysg sydd wedi’i newid i edrych ar y ffordd mae’r grwpiau hyn wedi cael eu hatal, dw i’n credu y gallai cenedlaethau’r dyfodol wynebu llai o anoddefgarwch. Byddai fy ngalluogi i i fod yn aelod yn rhoi i bobl fel fi lais dydyn nhw braidd wedi’i gael o’r blaen.