Cafodd Jake ei ailethol i Senedd Ieuenctid Cymru yn 2024, gan gynrychioli
Sir Drefaldwyn, ar ôl bod yn Aelod o Ail Senedd Ieuenctid Cymru (2021-2024)
Dyma ei ddatganiad fel ymgeisydd yn etholiad 2024:
Fel Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Sir Drefaldwyn, dw i’n awyddus i
barhau i gynrychioli a hybu problemau a’r newid y mae pobl ifanc Sir Drefaldwyn
eisiau ei weld.
Mae’r 3 blynedd ddiwethaf fel aelod o’r Senedd Ieuenctid wedi dangos bod
newid, dim ots pa mor fach, yn gallu cael effaith bositif ar fywydau pobl. Dw i
eisiau parhau i newid pethau sy’n helpu gwneud bywydau pobl ifanc yn haws. Os
byddaf i’n cael fy ail-ethol, dw i am weithio tuag at sicrhau newid, dim ots pa
mor fach yw’r newid hwnnw.
Dw i am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddangos fy ngwaith yn Senedd
Ieuenctid Cymru a gadael i bobl yn fy ardal gysylltu â fi i rannu problemau a
phryderon.
--------------------
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Ail Senedd
Ieuenctid Cymru (2021):
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cymorth
iechyd meddwl i bobl ifanc
- Cydraddoldeb
mewn addysg ar gyfer dyslecsia
- Gwell
seilwaith ar gyfer cerbydau trydan
Datganiad yr ymgeisydd: Byddwn yn gwneud Aelod da o’r Senedd Ieuenctid
oherwydd fy mod yn angerddol am wahanol safbwyntiau pobl, yn gweld y ddwy ochr
i faterion, yn eu trafod ac yn brwydro dros yr hyn sy'n iawn, gan weld y gorau
o ddau fyd.
Rwy'n areithiwr da ac yn fedrus wrth gyfleu fy marn a defnyddio fy mhrofiad
o astudio drama i gyfleu fy safbwyntiau i wahanol gynulleidfaoedd, mewn ffyrdd
sy'n teimlo'n bersonol iddyn nhw. Rwy'n wrandäwr da ac yn ystyried popeth y mae
pobl yn ei ddweud wrthyf cyn llunio barn. Nid oes ofn newid fy marn arnaf pan
allaf weld y byddai hynny’n arwain at ganlyniad gwell.
Mae gennyf natur greadigol ac rwy’n mwynhau darllen, actio a gwyddoniaeth y
gofod. Rwy'n mwynhau bod gyda phobl a chlywed eu straeon. Byddwn yn cysylltu â
phobl ifanc yn Sir Drefaldwyn trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mewn ysgolion.
Rwy'n ddyslecsig ond nid yw hyn yn fy nal yn ôl, ac rwyf am greu mwy o
ymwybyddiaeth a chefnogaeth ledled Cymru i helpu pobl fel fi nad oes ganddyn
nhw lais, o reidrwydd, i gyrraedd y man lle y maen nhw eisiau bod. Dylai pobl
ifanc bleidleisio drosof, byddaf yn gwrando ar eu lleisiau ac yn brwydro dros
eu hanghenion.