Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jake Dillon

Jake Dillon

Sir Drefaldwyn

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
  • Cydraddoldeb mewn addysg ar gyfer dyslecsia
  • Gwell seilwaith ar gyfer cerbydau trydan

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jake Dillon

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Byddwn yn gwneud Aelod da o’r Senedd Ieuenctid oherwydd fy mod yn angerddol am wahanol safbwyntiau pobl, yn gweld y ddwy ochr i faterion, yn eu trafod ac yn brwydro dros yr hyn sy'n iawn, gan weld y gorau o ddau fyd.

Rwy'n areithiwr da ac yn fedrus wrth gyfleu fy marn a defnyddio fy mhrofiad o astudio drama i gyfleu fy safbwyntiau i wahanol gynulleidfaoedd, mewn ffyrdd sy'n teimlo'n bersonol iddyn nhw. Rwy'n wrandäwr da ac yn ystyried popeth y mae pobl yn ei ddweud wrthyf cyn llunio barn. Nid oes ofn newid fy marn arnaf pan allaf weld y byddai hynny’n arwain at ganlyniad gwell.

Mae gennyf natur greadigol ac rwy’n mwynhau darllen, actio a gwyddoniaeth y gofod. Rwy'n mwynhau bod gyda phobl a chlywed eu straeon. Byddwn yn cysylltu â phobl ifanc yn Sir Drefaldwyn trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mewn ysgolion.

Rwy'n ddyslecsig ond nid yw hyn yn fy nal yn ôl, ac rwyf am greu mwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth ledled Cymru i helpu pobl fel fi nad oes ganddyn nhw lais, o reidrwydd, i gyrraedd y man lle y maen nhw eisiau bod. Dylai pobl ifanc bleidleisio drosof, byddaf yn gwrando ar eu lleisiau ac yn brwydro dros eu hanghenion.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Jake Dillon