Roedd Jonathon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cludiant
– Cost isel i bobl ifanc
- Iechyd –
Bwyta’n iach a chyllid chwaraeon
- Yr
Amgylchedd – lleihau gwastraff gan gynnwys plastig
Fy enw i yw Jonathon Dawes; rwy'n 15 oed, ym Mlwyddyn 11 ac yn brif fachgen
yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Rwyf wedi ennill nifer o wobrau yn sgil fy ngwaith yn
y gymuned a thenis, gan gynnwys Gwirfoddolwr Ifanc Tenis Cymru y flwyddyn,
gwobr Maer Rhyl, gwobr Chwaraeon Sir Ddinbych ac rwyf wedi ennill gwobr
Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Rwyf i wedi byw yn Nyffryn Clwyd gydol fy oes ac
rwy’n teimlo fy mod i'n berson perffaith i'ch cynrychioli chi yn y Senedd, yn
arbennig gyda'r sgiliau rwyf i wedi eu hennill o chwarae tenis a gwahanol
swyddogaethau eraill. Rwy’n ymgeisio oherwydd fy mod i’n dymuno gwneud
gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Rwy'n gweithio'n galed, yn angerddol am y
gymuned a gwleidyddiaeth. Os caf i fy ethol, gallwch chi gysylltu â mi ar y
cyfryngau cymdeithasol neu ddod i un o fy sesiynau galw heibio misol, i godi
eich pryderon, a byddaf yn clywed eich barn yn bersonol.
Fy nhair prif flaenoriaeth yw ...
Cludiant cost isel i bobl ifanc, Mwy o arian ar gyfer chwaraeon a bwyta'n
iach, Gwarchod ein hamgylchedd trwy fynd i'r afael â'n problemau plastig.
Mae'r materion hyn yn bwysig i bobl ifanc.
Diolch am ddarllen ac rwy’n gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio drosof i
fel eich aelod newydd o’r Senedd Ieuenctid.