Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Kayla, rydw i'n 15 oed ac rydw i ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol
Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, lle rydw i wedi dewis yr Opsiynau
Cyfryngau, TGCh a Thrin Gwallt.
Rydw i wedi bod
yn cymryd rhan mewn Cyfranogiad yn NYAS Cymru ers tua 18 mis fel aelod o’r Grŵp Cynghori Pobl Ifanc (YPAG) gyda phobl
ifanc eraill â
phrofiad o ofal ledled Cymru. Fe wnes i ymuno â'r grŵp am y tro cyntaf gan fy mod yn credu y
byddai'n gyfle gwych i mi wneud ffrindiau newydd a chwrdd â phlant eraill yn y rhwydwaith maeth. Mae
YPAG yn cael ei ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau, polisïau a recriwtio NYAS Cymru. Mae'r grŵp yn helpu i sicrhau bod NYAS Cymru a
gwasanaethau a phrosiectau eraill yng Nghymru yn diwallu anghenion y rhai sydd
â phrofiad o ofal. Rydyn ni’n cyfarfod o
leiaf ddwywaith y mis ac yn gwneud gweithgareddau hwyliog yn ogystal â
gweithgareddau i wneud newidiadau.
Rydwi'n mwynhau
mynd i gyfarfodydd achos mae'n ddiddorol gweld lle mae fy llais i'n gallu mynd
â fi. Rydw i’n hapus iawn i fod yn gynrychiolydd NYAS Cymru yn y Senedd
Ieuenctid oherwydd rydw i'n teimlo ei bod yn bwysig gwrando ar blant a phobl
ifanc yn enwedig pan fyddwch wedi bod mewn gofal. Un o'r pethau yr hoffwn ei
newid yw'r ffordd y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu labelu fel pobl
ddiog pan maen nhw’n cael trafferth gydag iechyd meddwl a TGAU. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod iechyd
meddwl pobl ifanc yn eu harddegau yn cael ei gymryd o ddifrif mewn ysgolion neu
gyda'r heddlu. Rydw i'n teimlo bod llais pawb yn bwysig, ac rydw i am i bobl
ifanc sydd, neu sydd wedi bod, mewn gofal, wybod ei bod yn iawn siarad am yr
hyn sy'n eu poeni a gofyn am help. Peth arall rydw i eisiau ei newid yw’r
hwtian ar ferched, sy’n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. Rydw i'n teimlo y dylai merched a menywod
allu gwisgo beth bynnag maen nhw ei eisiau. Rydw i hefyd am i bobl â
niwroamrywiaeth gael yr help sydd ei angen arnyn nhw yn yr ysgol, y brifysgol/coleg neu yn y
gweithle. Yn enwedig y rhai ag awtistiaeth neu ddyslecsia.