Datganiad yr
Ymgeisydd: Hoffwn fod yn aelod o’r senedd ieuenctid oherwydd credaf y byddai'n
brofiad gwych ac rwy'n angerddol iawn am bethau, credaf fy mod yn ymgeisydd
gwych i helpu i wneud newid ar gyfer dyfodol gwell.
Byddaf bob amser
yn gwrando ar farn pobl eraill ac yn eu parchu hyd yn oed os ydynt yn wahanol
i'm barn i.
Byddaf yn gofyn i
amrywiaeth o grwpiau o bobl ifanc beth sydd ar eu meddwl, beth yw eu barn a'u
pryderon, i sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried ac fel eu bod yn cael eu
clywed.
Credaf y byddwn
yn gwneud aelod da o’r senedd ieuenctid oherwydd fy mod yn angerddol, yn
garedig, yn ystyriol o farn pobl eraill, yn ofalgar ac yn parchu barn pobl
eraill. Rwy'n credu mewn cydraddoldeb a bod pawb yn haeddu cael eu clywed.