Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Kian Agar

Kian Agar

Aberafan

Roedd Kian yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Kian Agar

Bywgraffiad

Roedd Kian yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwastraff plastig
  • Allyriadau carbon monocsid
  • Bwydlen iachach yn yr ysgol

Rwy’n sefyll am Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf yn angerddol am wneud newidiadau cadarnhaol i'n cenhedlaeth, a chenedlaethau'r dyfodol i ddod. Rwyf am helpu i ddatrys problemau a fydd yn effeithio'n fawr ar y boblogaeth ifanc ac mae angen gweithredu ar hyn nawr. Nid yn unig byddaf yn sefyll dros fy mhryderon ond yn sicrhau fod lleisiau pobl yn fy ardal yn cael eu clywed, achos wedi’r cwbl, pwy fydd yn cael eu heffeithio gan newid, er gwell neu waeth. Drwy bleidleisio i mi, byddaf yn sicrhau bod gan bobl ifanc y dyfodol gorau. Ein cenhedlaeth ni fydd llawfeddygon, peilotiaid a pheirianwyr y dyfodol.

Rhaid inni wneud amgylchedd y gall ein pobl ifanc ffynnu ynddo, nid amgylchedd sydd wedi cael ei ddifetha a'i esgeuluso. Ym mis Gorffennaf, allan o dros 130 o ddisgyblion, enilles i wobr 'Disgybl y Flwyddyn', gan ddangos bod athrawon a cyfoedion yn gwerthfawrogi fy ngwydnwch, arweinyddiaeth a gwaith caled - rwy'n falch o gynrychioli fy nghyfoedion. Yn ddiweddar, cymeres i ran i helpu i glirio ein traeth lleol o wastraff plastig sy'n llygru ein môr bob dydd. Rwy'n credu y gallaf wir wneud gwahaniaeth i bobl y presennol, a'r dyfodol.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Kian Agar